Yr Ysgol yn arwain trafodaeth ar I, Daniel Blake
Nos Sadwrn, 3 Rhagfyr, cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Theatr Ardudwy, Harlech, lle dangoswyd 'I, Daniel Blake', ffilm arobryn newydd y cyfarwyddwr ffilm adnabyddus Ken Loach. Yn dilyn y dangosiad cafwyd trafodaeth banel yn cynnwys tri academydd o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, sef Dr Hefin Gwilym, David Beck a Gabriella Simak.
Enillodd y ffilm wobr y Palme d’or- yng ngŵyl ffilmiau Cannes ac mae wedi achosi cynnwrf yn y cyfryngau am ei chynddaredd deifiol ond cynnil yn erbyn 'creulondeb ymwybodol' Llywodraeth San Steffan. Fel y dywedodd Loach ei hun, ‘If you’re not angry, what kind of person are you?’ Mae'r ffilm yn dilyn Daniel Blake, saer coed canol oed sy'n ceisio hawlio budd-daliadau i'r di-waith ar ôl cael trawiad ar y galon yn ddiweddar. Mae Katie, sy'n fam sengl, ac yntau yn ceisio canfod eu ffordd trwy hunllef fiwrocrataidd annynol.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilmiau, Sefydliad Ffilmiau Prydain sy'n uno sinemâu yng ngogledd Cymru, gyda'r nod o hyrwyddo dangos ffilmiau arbenigol yn yr ardal. Mae'r Rhwydwaith yn cynrychioli 4 lleoliad unigryw ar gyfer celfyddydau cymysg - Theatr Ardudwy (Harlech), CellB (Blaenau Ffestiniog), Galeri (Caernarfon) a Pontio (Bangor). Ei nod yw rhoi profiadau newydd o'r sinema i gynulleidfaoedd lleol gan ddangos mwy o amrywiaeth o ffilmiau a ffilmiau arbenigol i gynulleidfaoedd nad ydynt fel arfer yn cael cyfle i'w gweld.
Yn ôl Silvia Sheehan, Cydlynydd Project Canolfan Ffilm Cymru, roedd y noson yn 'llwyddiant ysgubol ac yn gyfle arbennig o dda i ennyn diddordeb pobl ac i ddechrau trafodaeth'.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016