Ysbrydoli Newid Cymdeithasol trwy Gydraddoldeb Hiliol
Ymunodd Ysgol y Gyfraith, Hanes a Gwyddorau Cymdeithas Bangor â Race Council Cymru ddydd Llun 19 Gorffennaf i gynnal digwyddiad Ysbrydoli Newid Cymdeithasol Trwy Gydraddoldeb Hiliol. Roedd yn deyrnged i arwyddocâd y pwnc, a amlygwyd dros yr un mis ar bymtheg diwethaf gan bandemig Covid19, protestiadau BLM ac yn fwy diweddar, yng Nghwpan y Byd ac yn dilyn buddugoliaeth Fformiwla 1 Hamilton yn Silverstone, bod y digwyddiad wedi gallu denu cymaint o siaradwyr dylanwadol. Agorwyd y digwyddiad gan y Barnwr Singh CBE, cadeirydd Race Council Cymru ac a oedd y barnwr cyntaf o dras leiafrifol ethnig ar Fainc Cymru ac a gadeiriodd Gomisiwn Ymchwiliad Stephen Lawrence, ac yna trwy ardystiad gan Jane Hutt MS, a siaradodd am ymrwymiad Senedd Cymru i weithio tuag at Degwch a Chydraddoldeb ac i ymateb yn rhagweithiol i wybodaeth ac argymhellion ymchwil wyddonol i greu Cymru gwrth-hiliol trwy'r swyddfa weinyddol newydd ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol.
Yna clywodd y gynulleidfa hanes teimladwy un digwyddiad o gam-drin hiliol ar ôl y llall ac ymosodiad hiliol ciaidd diweddar ym Mangor, a amlygodd yn ingol realiti byw fel rhywun sy’n wahanol, ac ofn parhaus hiliaeth ac ymosodiadau hiliol y mae'n rhaid i lawer o bobl eu dioddef yn ein cymunedau, a osododd y naws ar gyfer y digwyddiad cyfan.
Cynlluniwyd y diwrnod fel digwyddiad ysbrydoledig, gan roi cyhoeddusrwydd i'r gwaith pwysig sy'n digwydd mewn llywodraeth ac mewn lleoliadau cymunedol ac addysgol.
Ymhlith y prif siaradwyr roedd: Yr Athro Emmanuel Ogbonna, a drafododd Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru. Mae'r Athro Ogbonna yn aelod o grŵp cynghori BAME Covid-19 y Prif Weinidog, yn gadeirydd is-grŵp economaidd-gymdeithasol Covid-19 Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac mae'n Gadeirydd y grŵp llywio sy'n datblygu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol cyntaf yng Nghymru, ac a amlygodd bwysigrwydd datblygu polisi trwy gynnwys aelodau’r gymuned ar bob lefel i helpu i ddatblygu polisi effeithiol a galw ar y rhai sy’n ymwneud â gweithio dros gyfiawnder cymdeithasol i fod yn obaith mawr; a'r Athro Charlotte Williams OBE sydd wedi arwain y gweithgor yn ddiweddar i ymgorffori themâu a phrofiadau lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, sy’n defnyddio dull addysgiadol gymunedol a chwricwlwm cyfannol sy’n rhychwantu pob maes pwnc, ac mae disgwyl iddo gael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd yn 2023 ac ysgolion uwchradd yn 2024.
“Roedd cael Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn agor y digwyddiad, yn gymaint o gefnogaeth, ac roedd cael cefnogaeth y Barnwr Ray Singh, yr Athro Emmanuel Ogbonna a’r Athro Charlotte Williams, yn wych” (Dr Marian Gwyn RCC)
Ymhlith y cyfranwyr eraill roedd Nneka MacGregor o Ganada, sy'n ffeminist croestoriadol, ‘anti-carceral’, diddymwr a chyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Cyfiawnder Cymdeithasol y Merched (WomenatthecentrE). Siaradodd Neka am rymuso merched trwy weithredu cymdeithasol; Soniodd Dr Omotolani Somoye (Swyddog Hanes Pobl Dduon ar gyfer Race Council Cymru) am ddathlu amrywiaeth trwy ymgysylltu â chymunedau lleol; Trafododd cyflwyniad Dr Corinna Patterson ddadwladychu’r cwricwlwm a rhoddodd wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ac yn ehangach ym Mhrifysgol Bangor a chanddi, gan nodi lle mae angen newid o hyd.
Yna dangoswyd enghreifftiau o'r gwaith a wnaed yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith, a Gwyddorau Cymdeithas drwy gyflwyniadau a wnaed gan ddau fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar o'r ysgol: Isabelle Middleton, a archwiliodd a yw ymdrechion diweddar yr Amgueddfa Brydeinig i gyd-destunoli a mynd i’r afael â’i arteffactau a’r modd y’u cafwyd yn mynd yn ddigon pell; a Kayleigh Manton a archwiliodd rôl symudiadau cymdeithasol a'r rôl y mae digideiddio yn ei chwarae wrth dystiolaethu ymddygiadau, digwyddiadau ac wrth gynhyrchu symudiadau. Roedd y cyflwyniad olaf gan Dr Dana Brabocova a adroddodd ar ychydig o ganfyddiadau rhagarweiniol project WISERD/Prifysgol Bangor "Borders, boundary mechanisms and migration" sy’n edrych ar sut mae’r hiliaeth strwythurol sy’n hollbresennol yn parhau i greu anfanteision yn erbyn y lleiafrif Roma yn y Weriniaeth Tsiec.
“Rwy’n falch iawn o gadarnhau bod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiant ysgubol; daeth â chymaint o bobl ynghyd - y rheini o lefel uchaf gwladwriaeth, academyddion, y proffesiynau, myfyrwyr ac ymgyrchwyr llawr gwlad - i rannu eu gwybodaeth ac i annog dysgu a gweithredu. Mae'r ymatebion wedi bod yn hynod gadarnhaol. Ond gweithredu yw'r hyn sy'n bwysig; gadewch inni o leiaf obeithio ein bod wedi ysbrydoli rhywfaint o newid cadarnhaol ar ôl heddiw” (Marian Gwyn RCC)
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2021