Ysgol Haf Astudiaethau Celtaidd
Cynhaliwyd ysgol haf yn ymdrin â Llenyddiaeth Gymraeg, Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor am bythefnos yn ystod Gorffennaf.
Yn ogystal â chael darlithoedd ar wahanol bynciau, yn cynnwys cyn-hanes Cymru, Arthur y Cymry, symbolau o hunaniaeth Gymreig, Cymru Geltaidd ac Oes y Tywysogion, cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i ymweld â chestyll, cloddio archeolegol ar benrhyn Llŷn, a llawer o fannau eraill yn ystod eu harhosiad ym Mangor.
Denodd yr ysgol haf fyfyrwyr o'r Unol Daleithiau, Sweden a Gwlad Pwyl. Meddai un myfyriwr, Kamil Majerski “Mae Cymru'n lle sy'n llawn o hanes, gwladgarwch, pobl wych a hud a lledrith. Mae'n drueni gen i na allwn i aros am dipyn bach mwy. Byddaf yn sicr o ledaenu'r newyddion am letygarwch a chyfleoedd gwych Bangor i'm cydweithwyr a'm myfyrwyr."
Cliciwch yma i weld clip am daith faes i safleoedd archeolegol ar Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2013