Ysgol yn croesawu cynrychiolwyr o Central College University, Iowa
Ymwelodd aelodau o dîm uwch reolwyr Central College University, Iowa, UDA â'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar ddydd Llun 7 Rhagfyr fel rhan o ymweliad pedwar diwrnod â Bangor.
Mae Central College yn bartner i Brifysgol Bangor ers cryn amser, ac mae nifer o'i myfyrwyr wedi ymgymryd â chyfnodau o brofiad rhyngwladol ym Mangor fel rhan o'u cyrsiau gradd, yn fwyaf nodedig yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Prif ddiben yr ymweliad diweddaraf oedd ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu partneriaeth gref rhwng Central College a'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, a thrwy hynny ehangu rhwydwaith yr Ysgol o bartneriaid rhyngwladol.
“Bydd partneriaeth o'r fath o fudd i fyfyrwyr o'r ddwy brifysgol ac yn ac yn creu gwell cyfleoedd dysgu a chydweithio", meddai Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol a Chydlynydd Rhyngwladol yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. "Rydym yn gobeithio y gwnaiff hyn arwain at gyfnewid myfyrwyr a staff dysgu yn y dyfodol agos".
Yn y llun, o’r chwith i’r dde:
Dr Martina Feilzer, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol; Mary Strey, Is-lywydd Materion Academaidd, Central College; Hefin Gwilym; Meggan Lloyd Prys, Cyfarwyddwr Preswyl Central College Abroad - Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2016