Ysgolheigion Bangor yn cyfrannu at The Cambridge History of Welsh Literature
Mae cyfrol newydd swmpus ar lenyddiaeth Cymru, o'i tharddiadau cynnar hyd at y cyfnod presennol, yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o arbenigwyr o Brifysgol Bangor a bydd yn cael ei lansio'n swyddogol yng Ngŵyl y Gelli ar 24 Mai.
Disgrifir The Cambridge History of Welsh Literature (Cambridge University Press, 2019) gan y cyhoeddwr fel “the biggest history of Welsh literature ever published” ac mae'n ganllaw cronolegol i bymtheg canrif o lên Gymraeg a Chymreig.
Mae llenyddiaeth Cymru yn un o'r traddodiadau llenyddol hynaf yn Ewrop - ac yn un o'i draddodiadau mwyaf diddorol. Ffurfiwyd y farddoniaeth gofnodedig gynharaf ym meysydd rhyfela’r Gymru ôl-Rufeinig ac yn 'Hen Ogledd' Prydain, ac mae beirdd Cymraeg yn dal i ysgrifennu o fewn yr un traddodiad barddonol heddiw.
Mae arbenigedd Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes Prifysgol Bangor yn nodwedd amlwg yn y gyfrol newydd, gydag erthyglau gan yr Athro Angharad Price o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Dr Euryn Roberts, Dr Mari Wiliam a Seán Martin o'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas; a Dr Andy Webb o’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth. Mae testunau’r erthyglau hynny'n amrywio o Brydain y 7fed Ganrif, portreadau o genedligrwydd yng Nghymru wedi 1945, i weithiau ‘diwylliannol ddwyieithog’ R.S Thomas ac Emyr Humphreys.
Wrth edrych ymlaen at lansiad y cyhoeddiad newydd ar 24 Mai, dywedodd Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes ym Mhrifysgol Bangor, yr Athro Andrew Edwards: ‘Mae'n wych gweld cymaint o gydweithwyr ym Mangor yn cyfrannu at y gyfrol bwysig hon. Rwy'n credu ei fod yn amlygu dyfnder ac ehangder yr arbenigedd yr ydym yn ffodus iawn i'w gael yma ym maes llenyddiaeth a hanes Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y gyfrol yn cael croeso mawr gan ystod eang o ddarllenwyr.’
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019