Ysgoloriaeth Ôl-radd Cyfrwng Cymraeg: Polisi Cymdeithasol
Ysgoloriaeth Ôl-radd Cyfrwng Cymraeg: Polisi Cymdeithasol
Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a’r Gyfraith
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ôl-radd cyfrwng Cymraeg ym maes Polisi Cymdeithasol i ddechrau 1 Hydref 2011. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae cyllid ar gael am hyd at bum mlynedd, yn cynnwys tair/pedair blynedd fel myfyriwr ymchwil am ddoethuriaeth a blwyddyn ychwanegol fel cymrawd dysgu. Bydd yr ysgoloriaeth ôl-radd yn cynnwys costau hyfforddi’r brifysgol (y gyfradd gyfredol i fyfyrwyr cartref/UE yw £3,466) a hefyd grant gynnal (y gyfradd gyfredol yw £13,590 y flwyddyn). Gwahoddir ceisiadau gan ddarpar ymchwilwyr gyda chefndir ym maes gwyddorau cymdeithas ac sydd â diddordeb mewn polisi iechyd yng Nghymru ers datganoli. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas fel un o amodau'r ysgoloriaeth. Ystyrir blwyddyn olaf yr ysgoloriaeth yn flwyddyn gymrodoriaeth pryd y bydd yr ymrwymiadau dysgu’n cynyddu.
Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn rhan o’r Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a’r Gyfraith a gellir cael gwybodaeth bellach am y coleg ar ei wefan.
Mae gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor 38 o staff academaidd llawn-amser sy’n dysgu ac ymchwilio mewn amrywiaeth eang o feysydd, a gellir cael gwybodaeth bellach am yr Ysgol a diddordebau ymchwil aelodau’r staff ar ei gwefan.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymwysterau/cryfderau canlynol:
- Gradd dosbarth cyntaf/ail ddosbarth uwch neu gymhwyster ôl-radd neu gymhwyster proffesiynol mewn maes perthnasol. I fedru derbyn yr ysgoloriaeth, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod wedi graddio o sefydliad addysg uwch cydnabyddedig, neu'n fyfyriwr israddedig sy'n disgwyl graddio cyn 31 Gorffennaf 2011.
- Medru siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
- Dangos y gallu a’r dyfalbarhad sydd eu hangen i gwblhau PhD trwy ymchwil o fewn cyfnod yr ysgoloriaeth.
- Paratoi amlinelliad o’i syniadau ar gyfer y project ymchwil arfaethedig.
- Bod mewn sefyllfa i gyflawni dyletswyddau dysgu cyfrwng Cymraeg i’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. Disgwylir i’r deiliad wneud cyfraniad pwysig tuag at ddysgu cyfrwng Cymraeg a thuag at ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd.
Dylai ymgeiswyr anfon llythyr cais yn cynnwys amlinelliad o’u syniadau ar gyfer y project ymchwil arfaethedig (dim mwy na 1,000 o eiriau), copi cyfredol o’u CV, ynghyd ag enwau dau ganolwr sy’n gyfarwydd â’u gwaith academaidd, at: Yr Athro Ian Rees Jones, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, Gwynedd, LL57 2DG (i.r.jones@bangor.ac.uk / 01248 382232).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Medi 2011. Caiff ymgeiswyr eu cyfweld ar gyfer yr ysgoloriaeth hon fel rhan o’r broses ddewis.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Delyth Morris (d.morris@bangor.ac.uk / 01248 382140).
Dyddiad cyhoeddi: 31 Awst 2011