Zoomposiwm – Cerddoriaeth John Metcalf
Pleser gan Ysgol Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor gyhoeddi symposiwm ar lein a fydd yn trafod cerddoriaeth John Metcalf, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gerdd Bangor, Tŷ Cerdd a’r Gymdeithas Gerddorol Frenhinol. Cynhelir y Zoomposiwm drwy gydol dydd Gwener, 12 Mawrth 2021 a bydd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau gan siaradwyr gwadd uchel eu parch, yn canolbwyntio ar y rhan fwyaf o’i oeuvres yn ystod ei yrfa lewyrchus, sy’n cynnwys ei operâu, ei gerddoriaeth gerddorfaol, siambr, lleisiol a chorawl ynghyd â’i gyfraniad i’r bywyd cerddorol o fewn Cymru a thu hwnt.
Dywedodd Dr Guto Pryderi Puw, trefnydd y Zoomposiwm a Darllenydd Cyfansoddi Cerdd ym Mhrifysgol Bangor: “Credaf bod dathliad cyfraniad cerddorol John Metcalf ac yntau yn 75 oed yn un haeddiannol iawn. Bydd llawer yn cytuno gyda mi ei fod yn cael ei gydnabod fel un o brif gyfansoddwyr Cymreig o’i genhedlaeth a thrwy ei gyfansoddiadau a’i amrywiol ymrwymiadau yn cyfarwyddo gwyliau cerddorol dros y blynyddoedd mae ei gyfraniad arwyddocal at fywyd cerddorol o fewn y wlad hon wedi bod yn amhrisiadwy.”
Cyfoethogir y digwyddiad ymhellach gyda pherfformiadau o nifer detholedig o weithiau Metcalf fel rhan o Ŵyl Gerdd Bangor, gan gynnwys ei Lyfr Lloffion y Delyn, perfformiad rhag blaen o’i bedwarawd llinynnol Towards Silence – Winter Journey a chasgliad o’i ganeuon a gyfansoddwyd drwy gydol ei yrfa lwyddiannus.
Cliciwch y ddolen yma i gofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Bangor, Tŷ Cerdd, Llywodraeth Cymru a’r RMA.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2021