Hunaniaeth Genedlaethol a Gwleidyddiaeth Sefydliadol.Datganoli yng Nghymru 1885-2001
Duncan Tanner, Matthew Cragoe, Wil Griffith, Merfyn Jones, Chris Williams,
Crynodeb
Astudiaeth o'r ffordd y mae dylanwadau gwleidyddol a diwylliannol wedi effeithio ar ddatganoli yng Nghymru yw'r project yma. Mae'n ymwneud â hunaniaeth genedlaethol ar ei ffurf ddinesig a'i ffurf ddiwylliannol.
Cyd-destun
Yn aml mae pobl yn tybio'n anghywir bod y broses o ddatganoli yng Nghymru yn beth hawdd i'w ddeall, a heb fod yn beth arwyddocaol iawn (o'i chymharu â datganoli yn yr Alban). Mewn gwirionedd, does yna ddim astudiaethau cynhwysfawr wedi cael eu gwneud sy'n cyfuno ymdriniaeth hanesyddol gyflawn â hunaniaeth genedlaethol, gan ystyried ddigwyddiadau gwleidyddol diweddar yr un pryd. Yn naturiol, mae gwaith diweddar yn canolbwyntio ar refferendwm 1997, ac ar newidiadau etholiadol a rhai cyfansoddiadol. Mae'r rheini sy'n astudio'r newidiadau ers 1979 yn cael eu rhwystro oherwydd prinder ymchwil hanesyddol ar hanes diweddar Cymru. Bron yn ddieithriad, mae adroddiadau ar y broses o ddatganoli yn ymdrin â'r byd ers 1992, neu hyd yn oed ers 1997, ac maen nhw'n gyffredinol yn cael eu hysgrifennu gan bobl o'r tu mewn. Mae hanes a gwyddor gwleidyddiaeth, archifau a niferoedd, y byd cyn 1979 a'r byd ôl-Blair, i gyd yn bethau sydd wedi dod yn feysydd i grwpiau ar wahân. Mae dealltwriaeth lawn o'r prosesau hir dymor, ac o'r berthynas rhwng newidiadau diwylliannol a gweithrediadau gwleidyddol, wedi dioddef oherwydd ar arwahanrwydd yma.
Amcanion
Amcan y project yma yw cysylltu gwahanol elfennau'r ymchwil er mwyn ychwanegu at ein dealltwriaeth hanesyddol o'r ffordd y mae datganoli yng Nghymru wedi datblygu. Fe fydd yn:
Cyflenwi traddodiad o waith ar hunaniaeth genedlaethol ddinesig yng Nghymru trwy ofyn sut y cafodd syniad 'ethnig' o hunaniaeth Gymreig ei 'ffurfio' a'i sefydlu ym mywyd cyhoeddus y wlad ar ôl 1918.
Archwilio sut mae natur gyfnewidiol hunaniaeth ddinesig a hunaniaeth ddiwylliannol yn egluro'r ffordd y gwnaeth agweddau poblogaidd ac agweddau gwleidyddol at ddatganoli newid rhwng 1979-97, gan ganolbwyntio'n arbennig ar sut y daeth yr iaith yn llai o bwnc oedd yn peri rhwyg.
Edrych sut mae dealltwriaeth o undeboliaeth Brydeinig yn newid yng Nghymru. Fe fydd yn rhoi sylw arbennig i gryfder y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr yng Nghymru.
Egluro mewn ffordd fanwl pam y cafodd datganoli ei wrthod yn refferendwm 1979, ac wedyn ei dderbyn (o ychydig) yn 1997.
Cynllun yr ymchwil
Fe fydd llawer o'r deunydd ar gyfer y project yn cael ei dynnu o ffynonellau archifol. Mae'r deunydd archifol yn eang iawn ac mae'n cynnwys archifau'r Blaid Lafur, Y Blaid Ryddfrydol a'r Blaid Geidwadol yng Nghymru. Mae'r rhain i gyd yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Hefyd, mae nifer o aelodau amlwg y Blaid Lafur wedi rhoi papurau i ni eu defnyddio. Ychydig iawn o'r rhain sydd wedi cael eu hastudio gan ysgolheigion. Fe fyddwn ni hefyd yn archwilio archif Plaid Cymru. Fe fydd y project yn seilio'i waith ymchwil ar holiaduron a chyfweliadau. Fe fydd y cyfweliadau'n ychwanegu at y casgliad o dros 300 o gyfweliadau, nifer ohonyn nhw gyda gwleidyddion allweddol, sydd ar gael ar dâp yn barod.
Devolution & Constitutional Change
An ESRC Research Programme
E.S.R.C. Economic & Social Research Council