Cam 2. Gorchudd (Yswiriant) Teithio
Nid yw Yswiriant Teithio Personol Safonol yn cynnwys teithio busnes fel rheol.
Gan hynny, mae’r brifysgol yn darparu Gorchudd Teithio AM DDIM i’r holl staff a myfyrwyr sy’n teithio dramor ar fusnes sy’n gysylltiedig â’r brifysgol.
I’w drefnu, llenwch y Ffurflen Gorchudd Teithio ar-lein o leiaf pythefnos cyn gadael. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd llenwi’r Ffurflen hon hefyd yn gweithredu fel eich Asesiad Risg Teithio Tramor!
Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gorchudd teithio ar-lein, dylech gofio y bydd angen i chi holi weithiau a yw darpariaeth y brifysgol yn ddigonol i chi, er ei bod yn achos y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gweithio ac astudio dramor. Ond weithiau, oherwydd y wlad y byddwch yn ymweld â hi, hyd eich arhosiad, y mathau o weithgareddau a gyflawnir, yn enwedig os byddwch yn teithio ymhellach, ac unrhyw anghenion meddygol arbennig fydd gennych, bydd angen darpariaeth ychwanegol. Gall Swyddog Yswiriant y brifysgol helpu gydag unrhyw ymholiadau.
Cofiwch, os ydych yn bwriadu cynnal gweithgareddau risg uwch fel naid bynji(!) neu deithio estynedig yn eich amser eich hun, mae’n rhaid i chi drefnu eich Yswiriant Teithio Personol eich hun. Gall hyn fod yn berthnasol hefyd os oes gennych anghenion meddygol penodol (gweler CAM 4: Hanfodion Iechyd ar gyfer Teithio). Wrth drefnu Yswiriant Teithio Personol, dylech bob amser gadarnhau ei fod yn cynnwys dychwelyd o’r wlad yn ôl i’r DU. A nodwch beth rydych chi'n bwriadu ei wneud bob tro, yn enwedig os ydych chi'n cynllunio gweithgareddau a theithiau risg uwch (mae rhai cwmnïau hyd yn oed yn ystyried sgïo jet yn risg uchel).
Ewch â’r holl wybodaeth yswiriant/gorchudd berthnasol gyda chi. Er enghraifft, copi o Nodyn Diogelu Polisi Gorchudd, rhif y polisi, rhifau cyswllt mewn argyfwng, cyfeirnod adnabod unigryw.
Dylid nodi na fydd llawer o wledydd yn rhoi triniaeth feddygol heb brawf yswiriant/gorchudd, neu byddant yn codi tâl pan roddir y driniaeth.
Rhaid i deithwyr gysylltu ag Global Response cyn mynd i unrhyw gostau meddygol gan y bydd methu â gwneud hynny yn arwain at wrthod hawliadau treuliau meddygol dilynol.