CAM 3. ASESIAD RISG
Yn achos y rhan fwyaf o fathau o deithio, llenwi'r Ffurflen Gorchudd Teithio Tramor fydd eich Asesiad Risg.
Fodd bynnag, mewn rhai achosion, yn dibynnu fel rheol ar yr ardal yr ymwelir â hi neu'r gweithgaredd a wneir (e.e. mynd i gynhadledd mewn gwlad a restrir gan y FCDO, gwneud gwaith maes), dylid darparu Ffurflen Gorchudd Teithio ac Asesiad Risg Gweithgaredd penodol hefyd a fydd yn nodi'r risgiau a'r rheolaethau. Bydd angen i hwn gael ei gymeradwyo gan aelod staff uwch mewn Coleg/Ysgol/Adran.
Mae angen Asesiad Risg Gwaith Maes ar gyfer pob gwaith maes grwp tramor, yn union fel yn y DU.
Ni ddylai paratoi'r Asesiad Risg Gweithgaredd fod yn feichus, ac os caiff ei wneud mewn da bryd cyn gadael mae'n gymorth defnyddiol wrth helpu i gynllunio logisteg gyffredinol y daith i sicrhau bod popeth yn ei le. Mae hyn yn cynnwys trefniadau cyn y daith, trefniadau unwaith y byddwch dramor a Gweithdrefnau Argyfwng os bydd rhywbeth yn mynd o'i le. Cofiwch fod rhaid cynllunio ar gyfer rhai trefniadau. Er enghraifft: Fisâu, pasbort neu frechiadau y mae angen eu cael ar adegau penodol cyn gadael neu mewn dosau wythnosau ar wahân.
Mae'r brif dudalen Teithio Dramor yn rhoi cysylltiadau i ffynonellau gwybodaeth a llawlyfrau sy'n egluro beth sydd angen ei gynnwys mewn Asesiad Risg Gweithgaredd, e.e. sefyllfa wleidyddol, brechiadau, gwahaniaethau mewn safonau iechyd a diogelwch.
Mae'r Llawlyfr Gwaith Maes Hyfforddedig yn arbennig o ddefnyddiol, gan ymdrin â materion y gellir bod angen eu hystyried wrth sefydlu gwaith neu astudiaeth dramor, e.e. cymeradwyaeth foesegol, a all fod yn angenrheidiol yn dibynnu ar y gwaith/ymchwil a wneir.
Yn ogystal, cysylltwch â Crisis24 (prif dudalen Teithio Dramor). Maent yn darparu'r cyngor teithio diweddaraf 24/7 365 diwrnod y flwyddyn ar gyfer pob cyrchfan gan gynnwys cymorth mwy cyffredinol e.e. cefnogaeth mewn argyfwng. Mae'r World Travel Guide Net hefyd yn ddull defnyddiol arall i gynllunio'ch taith, yn cynnwys 'cyn i chi fynd' hanfodol i sicrhau eich bod wedi ystyried Fisâu, Iechyd ac ati a phethau eraill a allai fod â chyfyngiadau amser.