CAM 4: HANFODION IECHYD AR GYFER TEITHIO
Brechiadau/Meddyginiaethau
Dylech sicrhau bod amser bod y brechiadau a'r meddyginiaethau (e.e. malaria prophylaxis) cywir gennych cyn teithio.
Sylwch: Nid yw'r Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch yn darparu triniaethau. Rhaid i staff a myfyrwyr gysylltu â'u meddyg teulu (neu ddarparwr amgen) i gael cyngor am frechiadau a phroffylacsis.
Mae gwefan y GIG NHS Fit for Travel (cyswllt a chyngor ar sut i'w ddefnyddio isod) yn rhestru'r brechiadau a phroffylacsis a gynghorir fel lleiafswm pan fyddwch yn teithio i wledydd unigol. Cynghorir staff a myfyrwyr sy'n teithio dramor ar fusnes sy'n gysylltiedig â'r brifysgol yn gryf i drefnu brechiadau/proffylacsis yn unol ag argymhellion Fit for Travel.
Cofiwch fod angen cael rhai brechiadau a phroffylacsis (e.e. tabledi malaria) ar adegau penodol cyn cychwyn, neu hyd yn oed mewn dosau wythnosau ar wahân.
Pan fyddwch yn teithio cofiwch fynd â'r International Certificate of Vaccination or Prophylaxis (ICVP) gyda chi fel prawf eich bod wedi cael y brechiadau cywir (cadwch gopi o'r dystysgrif fel cadw copi o'r pasbort).
Efallai y codir tâl yn dibynnu ar y driniaeth a roddir. Dylai staff a myfyrwyr siarad â'u Coleg / Ysgol / Adran i weld pa gostau gaiff eu had-dalu.
Ystyriaethau Iechyd Eraill
Yn ogystal â'r ystyriaethau iechyd o ddydd i ddydd yr ydym i gyd yn meddwl amdanynt wrth deithio dramor, er enghraifft llosg haul, bydd angen i rai gofio am gyflyrau meddygol sydd ganddynt eisoes a allai olygu bod angen meddwl sut y bydd y cyflwr yn cael ei reoli unwaith y byddant dramor. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y ddwy agwedd hyn yn y cysylltiadau isod.
Teithio gyda Meddyginiaethau
Gall fod cyfyngiadau, neu hyd yn oed waharddiadau mewn perthynas â pha feddyginiaethau y gellwch fynd gyda chi dramor. Er enghraifft, mae cyffuriau opiadau fel codeine wedi eu gwahardd mewn rhai gwledydd. Hefyd, mewn rhai achosion byddwch angen Llythyr Meddyg Teulu yn cadarnhau pam eich bod angen meddyginiaeth. Mae'r GIG yn cynnig rhywfaint o wybodaeth yma. Gweler hefyd Ystyriaethau Iechyd Cynt am fanylion.
Cysylltiadau
-
Fit for Travel – cyngor gan y GIG sy'n rhestru gwybodaeth am frechiadau etc fesul gwlad
-
Travel Vaccinations – cyngor cyffredinol gan y GIG
-
MASTA - gwasanaeth 'preifat' sy'n rhoi manylion cyngor iechyd i deithwyr
-
Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)
Defnyddio Fit for Travel
Dewiswch y wlad e.e. Liberia
Dewiswch 'Immunisations' (2il bwynt bwled)
Edrychwch ar ‘Courses or boosters usually advised’. Ystyriwch ‘Other vaccines’ gydach meddyg teulu