Beth yw Asbestos?
Mae asbestos yn ffibr gwydn, a ddefnyddid yn helaeth mewn deunyddiau lle roedd gallu gwrthsefyll gwres neu ymosodiad cemegol yn bwysig ac i roi cryfder i gynhyrchion sment fel byrddau inswleiddio, shîtiau rhychiog ar doeau, cwteri sment a phibellau. Hefyd chwistrellid haenau o asbestos ar ddeunyddiau eraill i leihau sŵn. O ganlyniad, mae'n synhwyrol tybio y bydd unrhyw adeilad a godwyd neu a adnewyddwyd cyn yr 1980au yn cynnwys deunyddiau sydd ag asbestos ynddynt ac ni ddylid gwneud unrhyw waith sy'n debygol o ddod â gweithwyr i gysylltiad ag asbestos oni bai bod asesiad digonol o’r risg wedi'i wneud.
Po fwyaf o lwch asbestos sy'n cael ei anadlu, po fwyaf yw'r risg i iechyd. Hyd yn ddiweddar credwyd bod y rhai sy'n marw o glefydau sy'n gysylltiedig ag asbestos yn dod i gysylltiad â llawer o asbestos yn rheolaidd, ond erbyn hyn credir y gall dod i gysylltiad ag ychydig o asbestos yn aml, neu lawer ohono’n achlysurol, arwain at ganserau a achosir gan asbestos. Felly, dylid cymryd camau bob amser i atal dod i gysylltiad ag asbestos o gwbl neu, lle nad yw hyn yn ymarferol, i ddod i gyn lleied â phosib o gysylltiad ag ef gan gadw at ddulliau gweithio manwl a gofalus.
Yn achos llawer o swyddi, bydd perchnogion adeiladau eisoes yn gwybod lle gellir dod ar draws asbestos ac, mewn rhai achosion, efallai eu bod wedi ei labelu i rybuddio eraill a allai ddod i gysylltiad ag ef. Fodd bynnag, yn aml ni fydd presenoldeb asbestos yn amlwg. Yn ogystal, efallai na fydd gweithwyr megis plymwyr, trydanwyr a pheirianwyr gwresogi yn meddwl eu bod yn gweithio gydag asbestos, ond fe allent ddrilio, torri a thrafod deunyddiau sy'n cynnwys asbestos 'cudd' yn rheolaid.
Y deunyddiau mwyaf cyffredin sy'n cynnwys asbestos yw:
-
Deunyddiau lagio boeleri a phibellau.
-
Byrddau a chwistrellwyd ag asbestos i inswleiddio rhag tân neu sŵn.
-
Byrddau inswleiddio.
-
Byrddau, shîtiau a chynhyrchion wedi'u seilio ar sment.
-
Teils nenfwd (a rhai teils llawr).
-
Gasgedi a chynhyrchion papur a ddefnyddir ar gyfer inswleiddio thermol a thrydanol.
-
Rhai arwynebau gweadog.
Yn gyffredinol, po fwyaf meddal y deunydd, hawsaf y caiff ei ddifrodi, gan arwain at ryddhau ffibrau, e.e. lagin boeler. Os gallai’r haen allanol amddiffynnol gael ei niweidio yn ystod y gwaith, dylid cymryd gofal i’w hamddiffyn neu i sicrhau na fydd rhyddhau ffibrau yn creu risg. Fel rheol bydd yn rhaid i waith lle caiff asbestos inswleiddio, haenau asbestos neu fyrddau inswleiddio asbestos eu tynnu, eu hatgyweirio neu darfu arnynt, gael ei wneud gan gontractwr arbenigol sydd wedi'i drwyddedu dan y Rheoliadau Asbestos (Trwyddedu).