Academyddion ar Ymweliad
Polisi'r Brifysgol yw sicrhau nad oes unrhyw un sy’n ymweld â'r Brifysgol yn agored i unrhyw risgiau sylweddol i'w hiechyd na’u diogelwch.
Mae hyn yn eich cynnwys chi fel academydd ar ymweliad. Byddwch, cyn belled ag y bo iechyd a diogelwch yn y cwestiwn, yn cael yr un wybodaeth, cefnogaeth a chamau rheoli â phob aelod o staff yn y Brifysgol. O'r herwydd, bydd Colegau / Ysgolion yn sicrhau bod unrhyw fan y byddwch yn gweithio ynddo, ac unrhyw offer a / neu ddeunyddiau y byddwch yn eu defnyddio yn ystod eich ymweliad yn ddiogel i’r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol.
Hefyd, bydd Colegau / Ysgolion yn sicrhau bod yr holl wybodaeth iechyd a diogelwch berthnasol yn cael ei chyfleu i chi pan fyddwch yn cychwyn, er enghraifft, manylion cyswllt mewn argyfwng, trefniadau cymorth cyntaf, manylion am fannau cyfyngedig, rheolau lleol ynghylch awdurdodi mathau penodol o waith.
Bydd y Coleg / Ysgol hefyd yn gweithio gyda chi i sicrhau bod unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith, gan gynnwys sicrhau bod unrhyw risgiau sy'n codi oherwydd eich bod yn 'anghyfarwydd' â strwythur y Brifysgol a'r Coleg / Ysgol hefyd yn cael eu hystyried, os oes angen, yn yr asesiadau risg sy'n gysylltiedig â’ch gwaith.
Yr hyn sy’n dilyn yw Llawlyfr Coleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg, a gynhyrchwyd ar y cyd â’r adran Iechyd a Diogelwch ac mae'n cynnwys gwybodaeth berthnasol am iechyd a diogelwch a allai fod yn ddefnyddiol i academydd ar ymweliad yn ystod eu cyfnod gyda Choleg Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg.