Newyddion: Chwefror 2019
The power of language: we translate our thoughts into words, but words also affect the way we think
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaume Thierry o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2019
Cymrodyr ymchwil newydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Prifysgol Bangor yn darparu tri allan o’r saith cymrawd ymchwil newydd a fydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o raglen sy’n rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau addysg uwch a senedd Cymru. Bydd yr academyddion o Ysgolion y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Naturiol yn rhannu eu harbenigedd ar faterion o bwys mawr a fydd yn bwydo’n uniongyrchol i waith y Cynulliad a’i bwyllgorau. Mae hyn yn arwain o gyfraniad Prifysgol Bangor i’r peilot llwyddiannus .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019
Datblygu dulliau economeg iechyd i werthuso ymyriadau iechyd deintyddol fel rhan o fesurau ataliol iechyd y cyhoedd
Cynhaliwyd seminar: " Datblygu amrywiaeth o ddulliau i werthuso gwasanaethau deintyddol yn economaidd: ehangu'r persbectif " a drefnwyd gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae deall y gellir atal y rhan fwyaf o bydredd yn y dannedd, yn arbennig mewn plant ifanc, yn golygu y gellir atal y costau hefyd i raddau helaeth. Yn y flwyddyn ariannol 2015-2016, adroddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod cost tynnu dannedd wedi costio dros £50.5 miliwn mewn plant rhwng 0 a 19 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019
Ymchwil newydd i seibiannau byr ystyrlon i ofalwyr
Yn ddiweddar cafodd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor ei chomisiynu gan Shared Care Scotland i gynnal Adolygiad Rhychwantu er mwyn deall yn well y dystiolaeth ymchwil am seibiannau byr i ofalwyr (a elwir weithiau yn ofal seibiant) a'r hyn y mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym am effaith seibiannau byr ar ofalwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019
Adnabod am y tro cyntaf proses yr ymennydd o baratoi i weithredu
Mae Niwrowyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Prifysgol Llundain (UCL) wedi adnabod am y tro cyntaf y prosesau sy'n digwydd yn ein hymennydd milieiliadau cyn i ni wneud cyfres o symudiadau, sy'n hanfodol ar gyfer lleferydd, llawysgrifen, chwaraeon neu chwarae offeryn cerddorol. Gwnaethant hyn trwy fesur meysydd magnetig bychan iawn y tu allan i bennau'r cyfranwyr ac adnabod patrymau unigryw sy'n ffurfio pob dilyniant cyn iddo gael ei weithredu. Gwelsant y gwahaniaethau rhwng patrymau nerfol sy'n arwain at weithredu rhywbeth yn fwy medrus o gymharu â bod yn fwy tueddol o wneud camgymeriadau.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019
Sicrhau mynediad at Gerddoriaeth Cymraeg ar gyfer pobl sydd yn byw gyda dementia
Mae gwrando ar eich hoff fiwsig yn codi’ch calon, waeth be fo’ch oed. Dyna pam mae Prifysgol Bangor a Mudiad Merched y Wawr yn lansio apêl ar Ddiwrnod Miwsig Cymru, i bobl gysylltu gyda’u hawgrymiadau o’u hoff ganeuon o bob cyfnod. Bydd yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn cael eu coladu er mwyn creu CD ac adnodd digidol a fydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei rannu â chartrefi henoed a chartrefi gofal dementia er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth Cymraeg ar gael i’r preswylwyr ei fwynhau.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019
Sylw brenhinol i waith ymchwil Ephraim
Dangosodd Meghan, Duges Sussex, diddordeb neilltuol yng ngwaith myfyriwr Meistr o Brifysgol Bangor, Dr Ephraim Kisangala, sydd yn fyfyriwr Ysgoloriaeth y Gymanwlad o Uganda, pan gyfarfu’r ddau mewn derbyniad yn Llundain yn ddiweddar. Ac yntau’n feddyg teulu yn Uganda, derbyniodd Ephraim, sy’n astudio Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, wahoddiad i gyfarfod â’r Ddugess ar achlysur cyhoeddi Ddugess yn noddwr Brenhinol yr Association of Commonwealth Universities.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019