Polisïau
Polisi a Gweithdrefnau Cofnodion Troseddol
Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gofal i ddiogelu Grwpiau Bregus, yn bennaf y rhai sydd o dan 18 oed ac yn ‘oedolion mewn perygl’. Mae'r Polisi a Gweithdrefnau Cofnodion Troseddol yn amlinellu'r canlynol:
- Y polisi ar ddefnyddio gwiriadau cofnodion troseddol a defnyddio'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Y polisi ar ddelio â myfyrwyr a darpar fyfyrwyr gyda chofnodion troseddol a rhai a waherddir rhag gweithio gyda Grwpiau Agored i Niwed.
Gweithdrefn Addasrwydd i Ymarfer
Mae gan y Brifysgol, ar y cyd â’i phartneriaid allanol, gyfrifoldeb i sicrhau bod myfyrwyr yn addas ar gyfer rhaglenni proffesiynol a’u bod yn astudio yn unol â fframweithiau moesegol a chanllawiau rheoliadol. Er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu gwarchod a bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu i fyfyrwyr, mae'n ddyletswydd ar y Brifysgol i fonitro iechyd ac ymddygiad myfyrwyr, ac mae ganddi Gweithdrefn Addasrwydd i Ymarfer sy'n ystyried sut all y rhain effeithio ar ofal y claf.