35 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dringo Kilimanjaro i godi arian i Mind
Bydd 35 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dringo mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro, i godi arian i’r elusen iechyd meddwl, Mind.
Bydd y myfyrwyr yn hedfan i Tanzania ar 3 Medi 2019, i ddringo i gopa Kilimanjaro, sy'n 5,895 metr (19,341 tr.) uwchlaw lefel y môr.
Y myfyrwyr sy'n arwain yr her yw Tom Savory, o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer a James Grimont o Ysgol Busnes Bangor ac mae Lydia Graham a Jacob Shaw sy'n astudio Gwyddorau Chwaraeon gyda Gweithgareddau Awyr Agored, a Noah Williams, sy’n fyfyriwr Astudiaethau Busnes, yn is-arweinyddion.
Meddai James Grimont: "Ein nod yw codi £3,380 yr un ac rydym wedi gweithio'n galed i ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr eraill ym Mhrifysgol Bangor i ymuno â ni ar yr antur fawr hon. Mae iechyd meddwl yn argyfwng sy'n gwaethygu a dewiswyd yr elusen hon oherwydd ein hymroddiad i wneud gwahaniaeth.
Ychwanegodd Tom Savory: "Er mwyn paratoi ar gyfer yr her, rydym wedi bod yn hyfforddi fel tîm yn lleol yn Eryri gan ddringo'r Wyddfa, Rhaeadr Fawr Abergwyngregyn a'r Garn mewn amodau gaeaf difrifol, yn ogystal ag ymarfer yn unigol.
"Cawsom hefyd ddiwrnod o brofiad mewn Siambr Uchder/Hypocsia dan arweiniad Dr Jamie Macdonald, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, i gael profiad o uchder eithafol, yn ogystal â chlywed sgwrs am effaith uchder eithafol ar y corff. Mae aelodau unigol o'r tîm wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill gan gynnwys rhedeg marathon."
Dywedodd Dr Macdonald: "Y ffordd orau o atal salwch uchder yw drwy addysg, felly roeddem yn hapus iawn i gynnig gweithdy am amgylchedd uchder eithafol, a sut i reoli’r straenachoswyr ffisiolegol a seicolegol lluosog a roddir ar y corff.
"Cyflwynodd un o’n swyddogion ymchwil, Dr Rossetti, ganlyniadau o'n gwaith ymchwil diweddar, a ganfu fod bod mor ffit â phosibl yn gorfforol cyn gadael yn helpu mynyddwyr i ymdopi â gofynion dringo, heb gynyddu’r risg o afiechyd uchder eithafol. Rydym yn dymuno pob lwc i'r tîm gyda'u her."
Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor: "Rydym yn hynod falch o'n myfyrwyr am ymgymryd â'r her hon yn anhunanol, a fydd yn y pen draw, yn helpu llawer eraill. Mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn bryder sylfaenol i'r Brifysgol; ac rydym yn ceisio creu amgylchedd sy'n addas ar gyfer eu lles. Mae'r fyfyrwyr yma yn wirioneddol yn arwain o'r blaen o ran codi ymwybyddiaeth."
Mae'r myfyrwyr wedi bod yn codi arian drwy amryw o weithgareddau dros y deg mis diwethaf, yn cynnwys pacio bagiau ym Morrisons Bangor a Chaernarfon, M&S a Tesco Bangor, a chasglu arian ar y stryd ym Manceinion, Caer, Bangor, Llandudno a Biwmares. Buont hefyd yn cynnal gweithgareddau codi arian yn y Belle Vue a Bar UNO yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ogystal â gwerthu cacennau yn y brifysgol.
Mae'r myfyrwyr wedi codi ymron i £100,000 yn barod, ac mae'r daith hefyd yn derbyn cymorth trwy ddyfarniad gan Gronfa Bangor.
Dywedodd Emma Marshall, Cyfarwyddwr Cronfa Bangor: “Mae Cronfa Bangor yn gwella ansawdd profiad ein myfyrwyr yn y brifysgol drwy gefnogi eu haddysg a'u datblygiad. Er enghraifft, trwy gyfrwng bwrsariaethau teithio, ysgoloriaethau, darpariaeth chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol, mae cefnogaeth eang ac amrywiol Cronfa Bangor yn galluogi'r brifysgol i roi ‘elfen ychwanegol’ i'r profiad a gaiff ei myfyrwyr.
Ar ran Mind, dywedodd Kris Heuser, Cydlynydd Codi Arian yn y Gymuned Mind Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi dewis codi arian i ni trwy ddringo Kilimanjaro. Mae'r tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino ers blwyddyn i godi'n agos at £100,000 ac wedi bod yn hyrwyddwyr gwych dros well iechyd meddwl.
"Gall £100,000 ein helpu i ateb 12,500 o alwadau i'n llinell gymorth, rhoi cymorth a chefnogaeth i 333 o bobl ifanc sy’n dioddef profedigaeth oherwydd hunanladdiad ac atal mwy o achosion o hunanladdiad oherwydd profedigaeth, neu ein helpu i argraffu a dosbarthu 400,000 o lyfrynnau am iechyd meddwl. Bydd yr arian maen nhw’n ei godi yn ein galluogi i helpu mwy o bobl a bod yno pan fo mwyaf ein hangen.
"Mae wedi bod yn bleser i'w cefnogi ar y daith hon."
Am fwy o wybodaeth am yr her neu os hoffech gyfrannu: Cliciwch Yma. Bydd rhoddion ar y dudalen hon yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng pob myfyriwr sy'n codi arian i’r daith gerdded ac yn mynd i Mind. Os ydych am noddi myfyriwr penodol, cyfrannwch i’w tudalen unigol: Cliciwch Yma
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2019