60 minutes a'r project sy'n ymwneud ag ymyraethau a ddatblygwyd ar y cyd gan Seicoleg Bangor
Yn ddiweddar, darlledodd rhaglen newyddion adnabyddus 60 Minutes eitem sy'n tynnu sylw at broject Ahlan Simsim IRC a Gweithdy Sesame, y fenter ddyngarol fwyaf erioed sy'n ymwneud â datblygiad plentyndod cynnar. Nod y project yw addysgu plant ifanc a ffodd oherwydd gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ac mae'n cynnwys gweithredu rhaglenni plentyndod cynnar yng ngwlad yr Iorddonen, Libanus, Irac a Syria.
Mae 60 Minutes yn tynnu sylw at y ffaith bod yr IRC yn rhedeg rhaglen ymweld â'r cartref sy'n anfon gwirfoddolwyr hyfforddedig, a hwythau'n ffoaduriaid eu hunain, i ymweld â 3,000 o deuluoedd ffoaduriaid unwaith yr wythnos, gyda gweithgaredd addysgol sy'n briodol i'w hoedran bob tro. Mae'r project yn defnyddio'r cwricwlwm Reach Up and Learn sy'n ymweld â'r cartref: rhaglen y gellir ei haddasu ar sail tystiolaeth, sy'n ymarferol ar gyfer lleoliadau lle mae adnoddau'n brin (http://www.reachupandlearn.com). Mae Dr Henningham o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn aelod o'r tîm Reach-Up and Learn ac yn gyd-awdur y cwricwlwm a'r llawlyfrau hyfforddi.
Dywedodd Dr Henningham “Mae'r rhaglen yn dangos pa mor bwysig yw'r math yma o ymyrraeth a'r effaith bosib ar hyrwyddo datblygiad plant ifanc a lles y teulu. Mae tîm yr IRC yn gwneud gwaith anhygoel yn lledaenu’r ymyrraeth hon ledled y rhanbarth a chyrraedd rhai o blant ifanc mwyaf bregus y byd a’u teuluoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2019