Aelod staff yng Nghyngor Gwynedd yn graddio gyda Rhagoriaeth
Dychwelodd aelod staff o Gyngor Gwynedd i fyd addysg a graddio gyda rhagoriaeth ar ôl astudio’n rhan-amser a pharhau i weithio.
Graddiodd Iwan Wyn Jones, 37, o Gaernarfon gyda rhagoriaeth mewn MSc Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr. Dyma’r ail dro i Iwan raddio o Brifysgol Bangor, y tro yma ar ôl deng mlynedd o seibiant o fyd addysg.
Aeth Iwan i Loegr fel myfyriwr israddedig yn y lle cyntaf, ond canfu nad oedd y cwrs wrth ei fodd a dychwelyd i’w fro enedigol a chael gwaith a chyfarfod ei ddarpar wraig ychydig wedi hynny. Penderfynodd ail-gychwyn ar ei astudiaethau ym Mangor a pharhau i weithio ar yr un pryd a graddiodd gyda gradd dosbarth gyntaf yn 2003, ychydig wythnosau cyn priodi.
Mae Iwan wedi cael profiad gwaith mewn meysydd amrywiol iawn hyd yma, ond maent yn bennaf wedi ymwneud â gofal cwsmeriaid, cefnogi busnes, ymchwil a newid ymddygiad. Erbyn hyn, mae gan Iwan ddau o blant, ac mae’n gweithio’n llawn amser fel Arweinydd Datblygu Prosiectau yng Nghyngor Gwynedd.
Dywedodd Iwan: “Penderfynais astudio Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr er mwyn datblygu’n broffesiynol. Roedd yn heriol astudio wrth weithio’n llawn amser, ond rhoddodd y cyfle i mi wneud sawl darn o waith ymchwil oedd o fudd i’r Cyngor.
“Yn ystod y cwrs cefais gyfle i gwblhau lleoliad gwaith dros gyfnod o bedwar mis gyda Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru yn yr Ysgol Seicoleg. Ariannwyd y lleoliad gan y Rhaglen Mewnwelediad Strategol Reverse SIP. Roedd hynny’n golygu fy mod yn gallu cael fy rhyddhau o’m gwaith beunyddiol am ddiwrnod pob wythnos. Cefais y cyfle i gynghori sefydliadau lleol ar theori a thechnegau newid ymddygiad, ac arweiniodd hynny at broject ymchwil ymarferol ym Mlaenau Ffestiniog a lwyddodd i ddylanwadu ar ymddygiad ailgylchu trigolion Gwynedd.
“Rwyf hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i gwblhau lleoliadau Go Wales a Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) rhwng y Brifysgol a diwydiant. Roedd y profiadau hynny’n werthfawr iawn i mi ddatblygu fy ngwybodaeth academaidd mewn perthynas â byd gwaith ‘go iawn’.
“Yr her fwyaf oedd cynnal cydbwysedd rhwng fy swydd, astudio a threulio amser gyda’m gwraig a’m plant, ac ar yr un pryd wneud amser ar gyfer teulu, ffrindiau, chwaraeon a’m diddordebau personol. Roedd y gwaith grŵp yn gallu bod yn anodd, oherwydd fy mhrinder amser a’r ffaith fy mod yn byw bywyd gwahanol iawn i rai o’r myfyrwyr eraill. Er ei fod yn heriol, roedd y profiadau hynny’n gyfleoedd i mi ddatblygu fy sgiliau ymhellach.
“Rwy’n mwynhau byw a gweithio yng Ngwynedd, ac rwy’n awyddus i gyfrannu fel y gallaf at ddyfodol cadarnhaol i’r ardal. Rwy’n ddiolchgar iawn i Gyngor Gwynedd am y gefnogaeth i ddilyn y cwrs. Fel myfyriwr sydd wedi cymhwyso’n hwyrach mewn bywyd, byddwn yn annog eraill sy’n ystyried dychwelyd i fyd addysg i fynd amdani. Byddwn hefyd yn dweud y gall astudio wrth weithio, neu ar ôl cael profiad o waith, er ei fod yn anodd ar adegau, roi profiad addysg mwy crwn i rywun. Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd, a chredaf fod ymestyn fy hun drwy gwblhau’r cwrs wedi fy helpu i weld y byd mewn ffordd fwy aeddfed.”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016