Arbenigwyr a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymddangos yng nghyfres newydd Channel 4 "Hidden Talent"
Dr Jamie Macdonald ger yr "Old Man of Stoer"Mae Dr Jamie Macdonald a Dr Tim Woodman o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor wedi bod yn cynghori ar gyfres Channel 4 a byddant yn ymddangos yn y sioe gyntaf y gyfres newydd: "Hidden Talent" am 21.00 ddydd Mawrth 24.4.12, ynghyd â rhai myfyrwyr o'r Brifysgol.
Cyfres newydd chwe rhan yw "Hidden Talent". Mae’n darganfod doniau cudd hynod nad oedd pobol byth yn breuddwydio hyd yn oed bod ganddynt. Yn y rhaglen, mae cannoedd o bobl, a ddewiswyd ar hap, yn cael eu rhoi drwy gyfres o brofion i adnabod rhai sydd â galluoedd cudd. Mae naw cyfranogwr yn darganfod os gallant fynd o fod yn ddechreuwyr llwyr i berfformiwr o'r radd flaenaf mewn ychydig o amser.
Yn cael ei oruchwylio gan wyddonwyr ac academyddion, mae dros 900 o bobl o bob cwr o'r wlad yn cael eu profi, ac mae nifer yn canfod bod ganddynt ddoniau corfforol, meddyliol, synhwyraidd neu greadigol arbennig - yr oeddent yn gwbl anymwybodol ohonynt. Mae'r arbenigwyr "Hidden Talent" yna'n ymgymryd â nhw, a’u hyfforddi a’u datblygu er mwyn iddynt allu wynebu heriau arbennig ac ymestyn eu talent newydd hyd yr eithaf, proses a allai hyd yn oed newid gweddill eu bywydau.
Mae'r bennod gyntaf yn canolbwyntio ar ddau sgìl bur wahanol: dringo creigiau a chanfod celwydd. Dyfeisiodd Dr Jamie Macdonald a Dr Tim Woodman prawf a fyddai'n tynnu allan priodoleddau naturiol pobl ar gyfer dringo creigiau. Maent yna’n cynorthwyo yn y broses ddethol, wrth gwtogi’r niferoedd i ddod o hyd i'r unigolion a oedd, yn eu barn nhw, â'r potensial orau i ragori wrth ddringo creigiau.
Roedd Dr Woodman yn chwilio am addasrwydd seicolegol yr unigolion, tra bod Jamie Macdonald yn dethol yn ôl eu gallu corfforol.
Martin Chester a Dr Jamie Macdonald ger yr "Old Man of Stoer"Roedd yr academyddion hefyd wedi sicrhau bod busnesau lleol gan gynnwys Canolfan Mynydda Cenedlaethol Plas y Brenin, Capel Curig, Wal Ddringo Indefatigable Canolfan Nuffield yn Llanfairpwll a Ropes and Ladders yn Llanberis hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen, a gafodd ei ffilmio mewn sawl lleoliad yn Eryri ac Ynys Môn.
Esboniodd Dr Jamie Macdonald: "Roedd hwn yn gyfle gwych i Grŵp Ymchwil Eithafion yr Ysgol fod yn rhan o broject a oedd yn dangos ein gwybodaeth a sut y gellir ei gymhwyso."
Wrth sôn am y profiad dywedodd: "Roedd yn ddiddorol iawn sylweddoli y gall pobl gael talentau cudd nad ydynt o reidrwydd yn ymwybodol ohonynt."
Rhoddodd Jamie wneuthurwyr y rhaglenni mewn cysylltiad â Martin Chester, hyfforddwr dringo o safon fyd-eang o Blas y Brenin. Rhoddodd yntau’r 10 yn y rownd derfynol trwy gyfres o dasgau er mwyn profi eu hystwythder, rhwyddineb gydag uchder, sgiliau arwain a chyfathrebu.
Maggie, sy’n 45 oed, yn nain ac yn nyrs sy’n cael ei ddewis i ddatblygu’r sgiliau y mae hi newydd ddarganfod ymhellach trwy dderbyn hyfforddiant un-i-un cyn ei her olaf: dringo Old Man of Stoer, stac môr 200 droedfedd yn yr Alban. Yr unig ffordd i gyrraedd yw drwy abseilio dros fôr terfysglyd, ac mae’r ddringfa fel arfer yn cymryd blynyddoedd o hyfforddiant cyn ei geisio.
Dechreuodd bywyd Maggie fel oedolyn yn 16 oed pan gafodd ei hun ar ei phen ei hun efo babi i’w magu, ond yn benderfynol o brofi y gallai llwyddo doed a ddêl. Wedi dim ond 18 diwrnod o hyfforddiant dwys, lle mae Maggie’n dangos dewrder a gwir ddycnwch, a fydd hi’n gallu dangos unwaith eto ei bod yn gallu goresgyn ei hofnau a goresgyn wyneb y graig 60m?
Mae’r cyflwynydd, Richard Bacon, yn dilyn cynnydd y cyfranogwyr, gan ddadorchuddio’r wyddoniaeth ryfeddol sy'n galluogi unigolion hyn i gyflawni'r hyn y gall pobl eraill ond breuddwydio am wneud. Mae'r rhain yn amrywio o dalentau sgiliau ieithyddol cudd sy'n caniatáu unigolyn i ddod yn rhugl mewn iaith dramor mewn dim ond ychydig fisoedd, i'r atgyrch deifio mamaliaid sy’n galluogi rhai pobl i dal eu gwynt am hyd at bedair munud a phlymio i ddyfnder o 60 metr heb offer sgwba, neu hyd yn oed ymdeimlad o gyfeiriad rhyfeddol sy'n gwneud i rywun yn ryw ‘Sat Nav Dynol’, sy'n gallu dod o hyd i'w ffordd drwy anialwch dieithr.
Mae'r profion a gynhaliwyd ar gyfranwyr yn cael eu cynllunio i asesu cymhwyster yn hytrach na sgiliau neu wybodaeth, felly gall gwylwyr hefyd cymryd rhan drwy brofion rhyngweithiol a gynlluniwyd yn arbennig ar wefan Channel 4. Yn adlewyrchu'r rheiny yn y gyfres, mae'r rhain yn ddyrys ac yn hwyl ac wedi’u dylunio mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr y gyfres 'ac yn rhoi cyfle i wylwyr datgelu eu talent gudd eu hunain - yn amrywio o gemau cofio a thasgau hymian i fod yn fetronom dynol.
Wedi ei ddatblygu a'i gynhyrchu gan Silver River, ar y cyd â American Express, y gyfres hon yn archwilio sut yr ydym yn hynod fel bodau dynol ac yn dangos yn union ein galluoedd, gan ddefnyddio ein talent gudd.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2012