Arweiniad i roi therapi gwybyddol wedi ei seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT) ar waith
Datblygwyd gwefan i roi arweiniad ar roi'r rhaglen hon ar waith gan ddefnyddio canfyddiadau'r project ASPIRE. Roedd y project ASPIRE yn edrych ar hygyrchedd a gweithredu rhaglen effeithiol i atal ail bwl o iselder mewn gwasanaethau yn y DU: Therapi gwybyddol wedi ei seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT.)
Gweithiodd yr Athro Jo Rycroft-Malone (cyd brif ymchwilydd) a Heledd Griffiths (cynorthwy-ydd ymchwil) o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor ynghyd â Rebecca Crane (cyd ymgeisydd) o Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, Prifysgol Bangor gyda chydweithwyr o brifysgolion Rhydychen, Exeter a Glasgow i archwilio'r defnydd o therapi gwybyddol wedi ei seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT).
Nod yr arweiniad hwn yw cynorthwyo gyda'r broses o drosi diddordeb mewn MBCT i wella mynediad at MBCT o ansawdd uchel. Mae'n set o adnoddau i arwain pobl sy'n ymwneud â sicrhau bod MBCT ar gael yn y GIG a chau'r bwlch gweithredu.
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn aml yn cael ei ddiffinio fel rhoi sylw bwriadol ennyd wrth ennyd heb feirniadu (Full Catastrophe Living, - Jon Kabat-Zinn).
Mae MBCT yn gyfuniad o leihau straen ar sail ymwybyddiaeth ofalgar (MBSR) a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Datblygwyd y rhaglen ac ymchwiliwyd iddi yn y lle cyntaf trwy hap-brawf gyda rheolydd ar dri safle.
Datblygwyd y rhaglen i helpu pobl sy'n dioddef o iselder ac mae wedi helpu cyfranogwyr sy'n dioddef iselder cyson trwy ddysgu sgiliau iddynt allu datgysylltu o batrymau gwybyddol arferol 'awtomatig' sydd o ddim lles iddynt.
Y patrwm meddwl sy'n gwneud pobl yn fwy tebygol o gael ail bwl o iselder yw meddwl am bethau negyddol drosodd a throsodd. Y prif sgil mae MBCT yn ei ddysgu yw sut i newid gêr yn feddyliol.
Roedd ASPIRE yn astudiaeth ansoddol, archwiliadol ac eglurhaol mewn dau gam a gynhaliwyd i ddisgrifio darpariaeth bresennol MBCT yn y GIG yn y DU, datblygu dealltwriaeth o gostau a manteision tybiedig gweithredu MBCT, ac archwilio ffactorau rhwystrau a llwyddiant o ran gwell hygyrchedd.
Casglwyd y dystiolaeth o nifer o ffynonellau data er mwyn creu fframwaith eglurhaol ar sut a pham y dylid gweithredu, ac i gyd-ddatblygu adnodd gweithredu gyda budd-ddeiliaid allweddol.
Daeth yr astudiaeth i'r casgliad er bod mynediad at MBCT ar draws y DU yn gwella ei fod yn parhau'n fylchog iawn. Mae'r astudiaeth hon yn rhoi fframwaith eglurhaol sy'n ein helpu i ddeall beth sy'n hwyluso a chefnogi gweithredu MBCT cynaliadwy.
Dilynwch y cyswllt i weld yr adroddiad llawn ar yr astudiaeth: