Cytundeb newydd rhwng cwrs Gwyddorau Meddygol ym Mangor a chwrs Meddygaeth Ôl-radd yng Nghaerdydd
Mae Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd wedi llofnodi cytundeb hanesyddol i raddedigion yn y Gwyddorau Meddygol (BMedSci) o Fangor fynd ymlaen i'r rhaglen Meddygaeth MBBCh yng Nghaerdydd. Gwarantir cyfweliad pob blwyddyn i hyd at ddeg myfyriwr sy'n bodloni'r meini prawf am le ar y cwrs MBBSCh Meddygaeth pedair blynedd yng Nghaerdydd. Nod y cytundeb yw cefnogi'r agenda ehangu cyfranogiad ym maes meddygaeth a hefyd cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei ymdrechion i gynyddu nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio i weithio i'r GIG yng ngogledd Cymru.
Dywed Mr Dean Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor a Llawfeddyg Fasgiwlar Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd: "Mae'r cytundeb hwn yn ddatblygiad pwysig i'r ysgol ac i ogledd Cymru. Bydd addysg ragorol a safonau uchel y cwrs BMedSci yn paratoi ein myfyrwyr am yrfa ym maes meddygaeth neu mewn maes gwyddonol arall."
Mae'r cwrs BMedSci mewn Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor yn ei ail flwyddyn erbyn hyn. Bydd y cytundeb hwn yn rhoi cyfle i'r garfan gyntaf o raddedigion fynd ymlaen i ail flwyddyn y rhaglen feddygol yn 2015. Bydd gradd Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor yn rhoi sylfaen wybodaeth ragorol i fyfyrwyr sydd eisiau mynd ymlaen i astudio meddygaeth, ond mae hefyd yn gwrs da i fyfyrwyr sydd eisiau gyrfa ym maes meddygaeth neu mewn maes gwyddonol arall. Meddai Dr Nichola Callow, Deon Coleg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad ym Mhrifysgol Bangor: "Bydd myfyrwyr yn gallu elwa ar arbenigedd addysgu ac ymchwil nifer o ysgolion yn y brifysgol ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bydd hynny'n cynnig cyfleoedd dysgu amlddisgyblaethol unigryw i fyfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau trosglwyddadwy."
Llofnodwyd y cytundeb ar ran Prifysgol Bangor gan yr Is-Ganghellor, yr Athro John Hughes, ac meddai: “Mae hon yn esiampl wych o sut gall Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phethau sydd o bwys mawr i Gymru. Mae'r cytundeb yma yn rhoi gwell cyfle i fyfyrwyr fynd ymlaen i addysg feddygol ac mae hefyd yn annog hyfforddeion meddygol i ystyried gogledd Cymru fel lle i hyfforddi ac i weithio. Bydd hefyd yn gymorth i ateb y galw am feddygon a chlinigwyr sy'n gallu siarad Cymraeg.”
Er na fydd y myfyrwyr fydd yn mynd ymlaen i astudio yn sgil y cytundeb hwn yn cymhwyso am nifer o flynyddoedd, gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr elwa ar y staff clinigol fydd eisiau bod yn rhan o'r gweithgareddau addysgu ac ymchwil sydd ynghlwm wrth y datblygiad hwn.
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Yr Athro Colin Riordan:
"Mae Prifysgol Caerdydd yn croesawu'r cytundeb yma gyda Phrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a bydd yn fodd i gryfhau'r cysylltiadau rhwng ein sefydliadau ymhellach. Mae hwn yn gynllun cyffrous a fydd yn cynyddu'r cyfleoedd i fyfyrwyr o Ogledd Cymru astudio meddygaeth yn un o brif ysgolion meddygol Prydain. Mae ein myfyrwyr meddygol eisoes yn treulio llawer o'u hyfforddiant clinigol yng Ngogledd Cymru a byddant yn gweithredu fel mentoriaid i fyfyrwyr fydd yn trosglwyddo o raglen gwyddorau meddygol Bangor i Gaerdydd."
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2014