Digwyddiad Dathlu Sgyrsiau Creadigol
Yn ddiweddar, bu Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a'r awdur enwog John Killick, yn dathlu eu project diweddaraf yn cefnogi pobl sydd â dementia - Sgyrsiau Creadigol.
Arweiniwyd y project gan Dr Kat Algar-Skaife o'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) Cymru, yng Ngholeg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor a chafodd ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru. Meddai Kat:
"Mae tystiolaeth gynyddol y gall y celfyddydau wella ansawdd bywyd a lles pobl hŷn a phobl sy'n byw gyda dementia. Fodd bynnag, rydym wedi sylwi mewn projectau blaenorol bod y sesiynau hefyd yn fuddiol i'r staff gofal trwy eu helpu nhw i ddod i adnabod y preswylwyr yn well. Roedd y project hwn yn bartneriaeth cyffrous rhwng Prifysgol Bangor, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint a John Killick, sy'n flaenllaw yn y maes. Cynigiwyd dulliau ychwanegol i'r staff gofal er mwyn cynyddu eu sgiliau wrth ymwneud â'r preswylwyr i wella ansawdd bywyd preswylwyr cartrefi gofal ledled y Sir.”
Bu'r project yn gweithio gyda phedwar ar ddeg o Gartrefi Gofal Sir y Fflint, gan gynnig gweithdai creadigol i'r staff er mwyn cynnig dulliau eraill newydd i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia ac i helpu ysgogi sgyrsiau gyda nhw.
Roedd y sesiynau hyn yn defnyddio'r celfyddydau a dulliau creadigol eraill i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda dementia yn gallu cael cysylltiad cadarnhaol ac ystyrlon i gefnogi eu lles. Roedd y gweithdai wedi helpu i wella sgiliau'r gweithwyr yn y cartrefi gofal fel bod ganddynt y dulliau i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia ac iddynt wneud cysylltiadau a chyfeillgarwch yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Dywedodd Luke Pickering-Jones, Arweinydd Gwasanaethau Dementia NEWCIS:
"Mae'r holl gartrefi gofal wedi croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y project hwn. Maent yn gaffaeliad i'r Sir yn y ffordd y maent wedi dangos eu bod am wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia yn y cartrefi gofal."
Cynhaliwyd y digwyddiad dathlu yn Nhafarn yr Horse and Jockey ym Mwcle, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth am weithio tuag at fod yn dafarn sy'n croesawu pobl â dementia yng Ngwobrau Deall Dementia Bwcle. Cynhaliwyd rhai o'r gweithdai yn yr Horse and Jockey hefyd.
Meddai John Killick, sydd â blynyddoedd lawer o brofiad fel athro, awdur preswyl a Chymrawd Ymchwil mewn Cyfathrebu drwy'r Celfyddydau:
"Roedd y project yn ddull newydd o weithredu, roeddem eisiau ei wneud yn brofiad gwahanol. Roedd ei gynnal mewn tafarn yn wahanol i ddechrau gan nad dyma'r lle arferol i gynnal sesiynau fel hyn, ond mae'r awyrgylch yn fwy hamddenol. Nid hyfforddiant ydoedd ond cyfle i'r staff ddysgu ohonynt eu hunain trwy farddoniaeth, lluniau, fideos, celf a chaneuon. Awgrymwyd gweithgareddau iddynt roi cynnig arnyn nhw yn ôl yn y cartrefi ac roeddwn i ar gael i'w mentora yn ystod y project."
Yn sgil llwyddiant y project, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid ychwanegol i barhau â'r gweithdai ar gyfer cartrefi gofal ledled Sir y Fflint i ddatblygu'r cyfle ymhellach trwy gynnwys gofalwyr teuluol a'r rhai sy'n gweithio mewn asiantaethau gofal cartref yn y sir.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2018