Dyfodol disglair ar ôl plentyndod anodd
Mae myfyrwraig a lwyddodd i oresgyn caledi mawr yn ystod ei phlentyndod wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd.
Daw Louise Brinton sy’n 32 oed o Lerpwl yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru ac yn gobeithio dilyn gyrfa fel Seicolegydd Clinigol er mwyn helpu pobl eraill.
Pan oedd Louise a’i brodyr a’i chwiorydd yn blant roeddent i mewn ac allan o ofal ond pan oedd Louise yn saith oed cawsant eu gadael gan eu mam. Aeth wythnos heibio cyn iddynt gael eu canfod a’u hachub. Cafodd ddau set o’i brodyr a’i chwiorydd eu maethu gyda’i gilydd ond cafodd Louise ei maethu ar ei phen ei hun.
Wrth sôn am y profiadau hyn meddai Louise: “Cefais amser anodd dros ben - roeddwn yn ‘anystywallt’ yn ystod fy arddegau oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i mi yn fy mhlentyndod. Gadewais ysgol yn 14 oed ond cyn hynny roeddwn yn ddisgybl distaw ac yn cael canlyniadau eithriadol o dda yn fy ngwaith ysgol. Cefais fy mwlio yn yr ysgol a doedd gen i ddim ffrindiau. Dechreuais gamddefnyddio alcohol a chyffuriau ac roeddwn yn feichiog pan oeddwn yn 15 oed.”
“Ymunais â grŵp therapi a hynny a newidiodd fy mywyd.”
Roedd y penderfyniad i symud i ogledd Cymru hefyd yn un bwysig i Louise.
“Cefais amser anodd iawn yn Lerpwl ac roedd symud oddi yno yn gyfle i ailadeiladu fy mywyd. Roedd hynny yn 2010. Ym mis Medi y flwyddyn honno, ar fympwy, penderfynais ymuno â’r cwrs Cyfeiriadau Newydd yng Ngholeg Menai, ac arweiniodd hynny at gwrs mynediad ac yna i Brifysgol Bangor. Er na ddeuthum i ogledd Cymru yn benodol i fynd i’r Brifysgol, rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Roeddwn wastad wedi eisiau mynd i brifysgol ond ni chredais erioed y byddwn yn llwyddo.”
“Nid oeddwn yn medru gofalu am fy mab ond rwyf wedi cadw mewn cysylltiad gydag ef. Mae’n aros gyda fi a fy mhartner ar hyn o bryd ac roedd yn y seremoni i fy ngweld i’n graddio.”
A hithau wedi graddio bellach, dywedodd Louise: “Rwy’n methu â chredu fy mod wedi llwyddo o’r diwedd! Rwy’n hapus ond hefyd yn drist iawn i adael Prifysgol Bangor.”
Yn ôl Louise roedd yr holl brofiadau yn y brifysgol yn agoriad llygad iddi.
Meddai: “Nid oedd bod yn y brifysgol yn golygu byw bywyd academaidd yn unig. Roedd yn brofiad dysgu cymdeithasol ac yn daith dysgu anhygoel. Roedd yn fraint cael rhannu profiadau gyda phobl rwy’n credu a fydd yn ffrindiau am oes.”
“Yr uchafbwyntiau i mi oedd pethau syml fel eistedd o amgylch bwrdd yn yr Ysgol Seicoleg a chael fy nerbyn am fod yn fi fy hun. Nid oedd unrhyw ddisgwyliadau arnaf gan nad oedd neb yn gwybod fy hanes, roeddwn yn rhydd i fod y person yr oeddwn eisiau bod, nid y person yr oedd cymdeithas wedi penderfynu y dylwn i fod.”
Mae’n dweud hyn oherwydd dywedodd meddyg wrthi beth amser yn ôl na fyddai byth yn addas i weithio oherwydd y problemau emosiynol ac iechyd meddwl yr oedd yn eu hwynebu ar y pryd.
Ychwanegodd: “Rwy’n falch o’r cyfle i fod yn rhan o adran mor wych. Does dim hierarchaeth yn yr Ysgol Seicoleg; mae’r darlithwyr a’r staff eraill yn ein trin yn gyfartal. Mae’r gefnogaeth fugeiliol hefyd yn wych – mae’r ysgol yn haeddu pob canmoliaeth ac rwy’n credu y dylent gael cydnabyddiaeth am y gwaith gwych y maent yn ei wneud.”
Mae Louise eisoes wedi dechrau helpu pobl eraill. Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol roedd yn gwirfoddoli i’r Samariaid am dros dair blynedd, ac mae hi hefyd wedi gwirfoddoli i Childline.
Mae bellach wedi cael ei derbyn ar gwrs Meistr rhan amser mewn cwnsela mewn coleg addysg bellach lleol a bydd hefyd yn chwilio am waith.
Meddai: “Mae hyn yn fy nychryn gan nad wyf wedi cael gwaith erioed o’r blaen. Rwyf hefyd angen cyllid ar gyfer astudio gradd Meistr, neu gael swydd a fydd yn talu digon. Byddwn wrth fy modd cael bod yn seicolegydd clinigol cofrestredig. Rwy’n gwybod fy mod wedi gorchfygu llawer o broblemau ac ni ddylai neb cael eu gwrthod fel y cefais i.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015