Dynes ifanc sydd wedi dod drwy strôc yn graddio
Yn seremonïau graddio gaeaf Prifysgol Bangor fe wnaeth dynes ifanc sydd wedi dod drwy strôc raddio gyda gradd MSc mewn Egwyddorion Niwroseicoleg.
Cafodd Nicola Brown o Lanberis, sy’n 36 oed ac yn fam i ddau o blant, ddiagnosis o ddyslecsia yn 12 oed, a dechreuodd gael ffitiau yn ei chwsg pan oedd yn 17 a dioddef strôc pan oedd yn 24 oed. O ganlyniad i'r strôc, gadawyd Nicola yn rhannol ddall a chollodd y gallu i adalw gwybodaeth yn gywir, ond llwyddodd i oresgyn hyn drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol.
Penderfynodd wthio ei hun ymhellach ac, ar ôl cyflawni ei gradd BSc Niwroseicoleg ym Mangor, ymdrechodd Nicola i ennill gradd Meistr mewn Egwyddorion Niwroseicoleg, gan ddweud "o'r diwedd, rwy’n gallu teimlo'n falch ohonof fy hun."
Bu Nicola’n gweithio'n rhan-amser drwy gydol y ddwy radd, a phenderfynodd flaenoriaethu'r rhan fwyaf o'i hamser yn gwirfoddoli, gan ennill profiad gwerthfawr wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl eraill. Yn 2008 daeth yn aelod o Headway Gwynedd, sefydliad di-elw sy'n cefnogi rhai sydd wedi dod dros anafiadau i'r ymennydd a'u teuluoedd/gofalwyr. Ers hynny, mae gwaith caled Nicola a’i hymrwymiad i eraill wedi cael ei gydnabod, ac erbyn hyn mae’n Gadeirydd yr elusen yng Ngwynedd.
Ynghyd â'i gwaith clodwiw gyda Headway, chwaraeodd Nicola ran ganolog wrth sefydlu’r unig raglen wirfoddoli dan arweiniad myfyrwyr yn y Brifysgol, sef Gerddi Iachau Headway a Ffrindiau Headway. Nod y rhain yw cynyddu hyder a gwella bywydau cymdeithasol eu haelodau.
Wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, bu'n rhaid i Nicola oresgyn nifer o heriau sylweddol. Darllen ac ysgrifennu oedd y meysydd lle'r oedd hi'n ei chael hi'n fwyaf anodd. Fodd bynnag, diolch i gymorth 1-i-1 drwy Ganolfan Dyslecsia'r Brifysgol, dywedodd "Rwyf wedi cael yr offer a'r technegau i roi hwb gwirioneddol i'r sgiliau hanfodol yma."
Yn rhyfeddol, nid yw'r rhwystrau hyn wedi llesteirio Nicola yn ei chenhadaeth i helpu eraill tra'n hybu ei haddysg ei hun. Mae'n ystyried mai ei huchafbwyntiau ym Mhrifysgol Bangor yw ennill gwobr yr Uchel Siryf yn 2018, a gwirfoddolwr y flwyddyn yn 2019. Er bod hynny ar lefel wahanol, mae'n dal yn ddiolchgar iawn am y cyfle i weithio ar broject sy'n canolbwyntio ar unigedd cymdeithasol ar ôl niwed i'r ymennydd; pwnc sy'n parhau'n un emosiynol iawn iddi.
Dywedodd Dr Rudi Coetzer, Uwch Ddarlithydd mewn Niwroseicoleg Clinigol a Niwroseicolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Proffesiynol Gwasanaeth Anaf i'r Ymennydd Gogledd Cymru: "Mae Nicola wedi bod yn fyfyrwraig wych, yn ysbrydoli pob un a ddaeth i gysylltiad â hi, ac yn dangos bod yr hyn a allai ymddangos yn amhosibl, yn bosibl os oes gennych yr ewyllys a'r angerdd i wireddu eich breuddwydion."
Wrth symud ymlaen, mae Nicola yn rhannu ei hawydd i barhau i ymchwilio i unigedd cymdeithasol yn dilyn anaf i'r ymennydd, ac mae'n gobeithio cofrestru ar gyfer PhD i astudio manteision mentora cyfoedion. Yn ogystal â'i dirnadaeth fel Cadeirydd Headway Gwynedd, mae'n deall bod hyn yn llwybr allweddol a fydd yn dod â manteision pendant i'r rhai sy'n dioddef yn lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2019