Gavin yn cael ei ddewis i chwarae i dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru
Wrth i baratoadau Bale, Ramsey, Hennessey a gweddill carfan bêl-droed Cymru fynd rhagddynt ar gyfer pencampwriaeth UEFA Ewro 2016 yn Ffrainc eleni, bydd un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Gavin Lloyd-Jones, hefyd yn awyddus i ganfod cefn y rhwyd fel aelod o dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru.
Mae Gavin, sydd o Gaernarfon ac yn fyfyriwr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, wedi ei ddewis yn aelod o garfan Prifysgolion Cymru a fydd yn cymryd rhan mewn cyfres o gemau cyfeillgar yn erbyn timau Prifysgolion yr Alban a Phrifysgolion yr Iwerddon y mis hwn. Gavin, sy’n chwarae’n rheolaidd i dîm Llanrug United yng nghyngrair y Welsh Alliance Division 1, yw’r unig fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn y garfan.
Gan edrych ymlaen at y gyfres, meddai Gavin:
“Mae’n bleser cael cynrychioli tîm pêl-droed Prifysgol Bangor felly mae cael fy newis i gynrychioli Prifysgolion Cymru yn anrhydedd enfawr. Dwi wir yn edrych ymlaen at weld yr hyn fydd gan y gyfres a’r timau eraill i’w cynnig.”
Un arall sy’n ymfalchïo yn llwyddiant Gavin yw Becca Kent, IL Chwaraeon a Byw’n Iach yn Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor, a ddywedodd:
“Mae’n wych bod un o’n myfyrwyr yn cael ei gydnabod drwy gynrychioli’r Brifysgol ar lefel genedlaethol. Mae’n tîm pêl-droed Dynion a’r Undeb Athletau gyfan yn edrych ymlaen at gael cefnogi Gavin yn ystod y gyfres hon. Amdani, Bangor!”
Yn dilyn y gêm yn agoriadol yn erbyn Prifysgolion yr Alban ar 6 Ebrill, bydd y tîm yn chwarae eto ar 27 Ebrill, yn erbyn tîm Prifysgolion yr Iwerddon ar gae Barry Town FC, Jenner Park.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2016