Grŵp Ymchwil Eithafion yn bresennol mewn cynhadledd ryngwladol o fri
Mae pedwar crynodeb o eiddo Dr Jamie Macdonald a’i fyfyriwr PhD, Dr Naushad Junglee, wedi cael eu derbyn ar gyfer cyflwyniad yn Wythnos Arennau 2012, cyfarfod pwysicaf y byd ar arenneg, a gynhelir gan Gymdeithas Arenneg America. Mae’r awduron yn arbennig o falch fod un crynodeb, yn deillio o gydweithrediad gan y Grŵp Eithafion gyda’r Athro Neil Walsh a Dr Matt Fortes, i’w gyflwyno ar lafar. Cwblhaodd y Grŵp Eithafion astudiaeth yn ymchwilio i swyddogaeth niwed ar y cyhyrau yn deillio o ymarfer, mewn achosion o Anaf Llym ar yr Arennau. Meddai Jamie, “Gall Anaf Llym ar yr Arennau arwain at ganlyniadau difrifol, ac mae’n syfrdanol o gyffredin mewn rhai poblogaethau, er enghraifft milwyr ar gad-drefniadau mewn amgylcheddau poeth. Yr astudiaeth hon yw’r gyntaf i wahanu ac i greu, yn arbrofol, amryw o ffactorau risg y cymerir eu bod yn achosi Anaf Llym ar yr Arennau. Mae’r astudiaeth yn nodi targedau newydd i gynorthwyo i atal y cyflwr hwn, a allai fod yn berygl einioes.” http://www.asn-online.org/education_and_meetings/kidneyweek/posters
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012