Gwyddonwyr Chwaraeon o Brifysgol Bangor yn taro’r nodau uchaf
Weithiau, mae tri academydd o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor yn gwisgo het hollol wahanol – pan na fyddant yn darlithio wrth fyfyrwyr ynglŷn â gwyddor chwaraeon, maent yn chwarae mewn band gyda Sarah Louise Owen, cantores-gyfansoddwraig leol sydd â gradd o Fangor.
Ar ben hynny, buont yn chwarae’n ddiweddar yn ystod ymweliad tra phoblogaidd a llwyddiannus Mumford & Sons â Llandudno, ac yn ategu perfformiadau Olly Murs a Pixie Lott yng ngig ddiweddar Access All Eirias a gynhaliwyd ym Mae Colwyn.
Mae’r darlithwyr Gwyddor Chwaraeon Ross Roberts, Stuart Beattie a Gavin Lawrence yn chwarae gyda Sarah Louise Owen ers ychydig flynyddoedd ac, yn yr amser a oedd yn arwain at ryddhau ei phedwerydd albwm Dreamcatcher, a aeth ar werth ar 26 Tachwedd, aeth y gigiau’n fwy ac yn well.
Meddai Ross, sy’n byw yn Rachub, ger Bethesda, “Roedd gig Access All Eirias yn wych, o ran cael chwarae ar lwyfan mor fawr, a chawsom noson wych yn ddiweddar hefyd, yn un o brif eitemau Gŵyl Conwy – roedd y dorf yn fendigedig!”
“Byddwn yn disgrifio cerddoriaeth Sarah fel rhywbeth eithaf gwerinaidd, eithaf popaidd ac eithaf gwladaidd ar yr un pryd. Ceir cymysgedd da o faledi cymharol araf ac eitemau cyflymach i ddawnsio iddynt, felly, at ei gilydd, mae’n noson dda allan!”
Meddai’r gitarydd Stuart, o’r Felinheli, “Yn ddi-os, Access All Eirias oedd y gyngerdd fwyaf eto. Mae Sarah a minnau hefyd wedi recordio cyfres acwstig ar gyfer BBC Radio Wales, a hi oedd artist Cymreig y flwyddyn yr wythnos ddiwethaf! Rydym hefyd wedi cael gwahoddiad yn ôl i stiwdios S4C ym mis Chwefror ar gyfer recordiad arall ar sioe gerddoriaeth Gymraeg newydd, felly mae’r cyfan yn mynd yn wirioneddol.”
Ychwanegodd y drymiwr, Gavin, o Lanberis, “Roedd yn brofiad gwych. Bûm yn ddigon lwcus i gael chwarae mewn lleoliadau mawr o’r blaen, mewn bandiau gwahano, ond hwn oedd y gig ‘mawr’ cyntaf, felly roedd yn brofiad newydd clywed y gerddoriaeth mewn lleoliad mawr.”
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys aros mewn castell a mynd trwy’r broses o recordio gyda’i gilydd.
Ychwanegodd Ross, sy’n chwarae’r piano, “I mi, mae cael hwyl gyda fy ffrindiau wrth chwarae fy mhiano yn un o brif uchafbwyntiau chwarae. Rydym wedi cael rhai gigiau gwych mewn gwahanol rannau o’r DU ac Ewrop, ac roedd cael gwahoddiad i chwarae mewn priodas yn Toscana yr haf diwethaf yn brofiad rhyfeddol o wych, yn enwedig bwrw’r Sul mewn castell!”
Ychwanegodd Stuart, “Mae recordio ar albwm diweddar Sarah a chael cyfle i benderfynu ynglŷn â pha ganeuon oedd i’w cynnwys yn yr albwm a’u mireinio wedi bod yn uchafbwynt. Mynd trwy’r broses o recordio a chlywed y recordiad ar ei ffurf derfynol oedd y profiad gorau o bell ffordd.”
Meddai Sarah, “Rwy’n chwarae gigiau acwstig gyda Stu ers 6 neu 7 mlynedd, ac ers ychydig yn llai o amser gyda’r lleill. Mae’r chwe mis diwethaf wedi bod yn wych, gan chwarae fy nghaneuon o’r albwm yn fyw gyda’r hogiau, a gweld y cyfleoedd a’r llwyfannau’n mynd yn fwy ac yn well. Maen nhw’n griw gwirioneddol dda o bobl ac rwy wrth fy modd yn eu cwmni ar y llwyfan.”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2012