Hannah yn Ennill Medal Aur yn Awstria
O'r chwith: Tiffany Brannan, Hannah Powell a Stephanie Owens (Tîm Cymru)Enillwyd medal aur yn 12fed Grand Prix Codi Pwysau Ewropeaidd Rhyngwladol Vienna, Awstria gan fyfyriwr Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Bangor.
Mae Hannah Powell, 22 oed, sy’n hanu o Birmingham, ar hyn o bryd yn ei blwyddyn gyntaf ar gwrs gradd mewn Gwyddor Chwaraeon ac wedi codi pwysau ers iddi fod yn 14 oed; bellach, mae hi’n cynrychioli Gwledydd Prydain.
Ymunodd Hannah â Thîm Cymru ar y daith fel gwestai ac fel cynrychiolydd Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn. Roedd Tiffany Brannan, Hyfforddwr Ffitrwydd yng Nghanolfan Brailsford, canolfan chwaraeon y Brifysgol, hefyd yn cynrychioli Cymru.
Roedd y gystadleuaeth wedi'i threfnu'n dda ac yn cynnwys rhai o'r codwyr pwysau gorau yn Ewrop gan gynnwys cyn Olympiaid ac athletwyr Gemau'r Gymanwlad yn ogystal â rhai o godwyr pwysau mwyaf addawol y cyfandir.
Yn y sesiwn ddydd Gwener gwelwyd Tiffany a Hannah yn cystadlu yn y sesiwn gyda'r hwyr. Dangosodd Tiffany benderfyniad a chalon enfawr yn goroesi anaf i'w hysgwydd a gafodd ar ei chipiad terfynol, a llwyddodd i hawlio'r fedal Efydd ar ei phlwc olaf. Ei chyfanswm terfynol oedd 131kg - cipiad o 55kg a phlwc o 76kg.
Cafwyd perfformiad cryf iawn gan Hannah. Ei chodiadau gorau oedd 64kg yn y cipiad ac 82kg yn y plwc a olygai iddi ennill y fedal aur o led gyffyrddus. Yn ogystal â hynny cafodd Hannah y pedwerydd sgôr Sinclair uchaf ar draws y gystadleuaeth gyfan.
Mae'r ddwy ohonynt wedi gosod seiliau cryf i adeiladu arnynt ar gyfer y Pencampwriaethau Prydeinig ym Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015