Hyfforddi'r meddwl drwy fyfyrio ymwybyddiaeth ofalgar yn meithrin lles gydol oes
Gall ymwybyddiaeth ofalgar, sy'n helpu pobl newid y ffordd y maent yn meddwl a theimlo ynghylch eu profiadau, fod yn ddefnyddiol i bobl ar wahanol gyfnodau o'u bywydau. Wedi'i addasu fel Therapi Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) gall gynorthwyo pobl sy'n ymdopi ag amrywiaeth o anawsterau.
Eglurwyd hynny gan Rebecca Crane o Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor: "Mae yna ddiddordeb cryf yn y potensial i unigolion a chymdeithas fyw mewn ffyrdd mwy tosturiol, gan fyw'r bywydau sydd gennym yn llawnach yn hytrach na defnyddio'n hegni ar syniadau o sut y gallai pethau fod, a dod â mwy o garedigrwydd i'r ffordd rydym yn ymdrin â ni'n hunain a'r byd o'n cwmpas."
Mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor yn ymwneud ag ymchwilio i'r pethau sy'n hwyluso a rhwystro defnyddio hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar yn y Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal â'i effeithiolrwydd mewn lleoliadau eraill.
Meddai Rebecca Crane: "Er bod MBCT wedi cael ei argymell gan NICE er 2004, nid yw'r therapi ar gael yn helaeth yn y Gwasanaeth Iechyd ac mae'r ddarpariaeth yn dibynnu'n union ym mha ran o Brydain rydych yn byw. Ymysg ein gwaith ymchwil presennol, rydym yn edrych ar bosibilrwydd cynnig hyfforddiant ar ymwybyddiaeth ofalgar yn y GIG i bobl sy'n dioddef o ganser a'u gofalwyr, er mwyn eu cefnogi gyda sialensiau seicolegol byw gyda chanser."
Mae Prifysgol Bangor yn awr yn cynnal cynhadledd wyddonol ryngwladol, "Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas" yng Nghaer ar 22-26 Mawrth. Mae cyflwyniadau yn y gynhadledd yn dangos sut yr ymchwilir i ymwybyddiaeth ofalgar a'i dysgu mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau cymdeithasol.
Mae gan Chris Ruane, AS Dyffryn Clwyd, ddiddordeb yn y ffordd y defnyddir Ymwybyddiaeth Ofalgar. Meddai: "Mewn atebion a gefais i gwestiynau a ofynnais yn ddiweddar yn y Senedd gwelwyd bod presgripsiynau am gyffuriau rhag iselder wedi codi'n syfrdanol o 9 miliwn yn 1991 i 47 miliwn yn 2011, a bod 32.3% o bobl ifanc rhwng 16 a 25 yn dioddef oddi wrth un neu fwy o gyflyrau seiciatrig. Mae'r rhain yn ystadegau gwirioneddol frawychus. Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi cael ei chymeradwyo gan y National Institute for Clinical Excellence er 2004. Nid oes ganddi unrhyw sgil-effeithiau, mae'n rhoi'r unigolyn mewn rheolaeth dros y sefyllfa ac mae'n driniaeth ratach na chyffuriau rhag iselder. Eto i gyd, dim ond 5% o feddygon teulu sy'n cyfeirio cleifion i gael y driniaeth hon. Rwy'n gobeithio y bydd y gynhadledd hon yn rhoi sylw i botensial ymwybyddiaeth ofalgar i rai sy'n dioddef oddi wrth salwch meddwl ac fel ffordd o ddod â ffyniant a lles i'r boblogaeth yn gyffredinol."
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013