Inequality: The Enemy Between Us
Wythnos diwethaf, ymwelodd yr Athro Kate Pickett o Brifysgol Efrog â Bangor i draddodi Darlith Goffa Anne Marie Jones, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Ymyriad Cynnar dros Blant a'r Ganolfan Ymyriad Cynnar ar Sail Tystiolaeth yn yr Ysgol Seicoleg.
Mae Kate Pickett yn gydawdur ‘The Spirit Level’ cyfrol ddylanwadol a ddyfarnwyd yn Gyhoeddiad y Flwyddyn 2012 gan y Political Studies Association ac a gyfieithwyd i 23 o ieithoedd.
Dan y teitl "Inequality: The Enemy Between Us” roedd ei darlith yn archwilio effaith anghydraddoldeb incwm ar draws y byd, gyda phwyslais arbennig ar effaith anghydraddoldeb ar blant. Daeth cynulleidfa fawr o fyfyrwyr a staff y brifysgol, ac aelodau o'r gymuned ehangach i'w gweld.
"Mae yna fytholeg yn y DU i'r perwyl os byddwch yn gweithio'n galed a bod gennych ddigon o uchelgais y byddwch yn llwyddo mewn cymdeithas. Ni all hynny fod yn wir tra bod cydraddoldeb isel o ran cyfle a symudedd cymdeithasol", dywedodd yr Athro Pickett.
Aeth ymlaen i esbonio'r cysylltiadau rhwng anghydraddoldeb a lles plant, gan ddangos bod lles plant yn is na'r cyfartaledd mewn gwledydd lle mae anghydraddoldeb incwm yn uwch.
"Wnewch chi ddim dod ar draws unrhyw un, ar draws y sbectrwm gwleidyddol, nad yw'n credu bod symudedd cymdeithasol yn beth da. Rydym i gyd eisiau i'n plant wneud yn dda, ond mae symudedd cymdeithasol lawer yn is mewn gwledydd mwy anghyfartal.
Os ydych chi wir eisiau byw'r Freuddwyd Americanaidd, byddai gennych well cyfle o wneud hynny yn Nenmarc" meddai.
Cadeiriwyd y ddarlith gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John Hughes, a ddywedodd: "Mae’n bleser mawr cael cwmni yr Athro Kate Pickett heno... Mae 'The Spirit Level’ yn cynnwys gwersi pwysig iawn ynglŷn â pham y dylem ymgyrchu dros gydraddoldeb."
Mae'r Athro Pickett yn gyd-sylfaenydd The Equality Trust, mudiad sy'n gweithio i leihau anghydraddoldeb incwm er mwyn gwella ansawdd byw yn y DU.
Mae hi hefyd yn Gomisiynydd y Comisiwn Cyflog Byw.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2014