Myfyriwr arobryn yn paratoi ar gyfer astudio PhD
Mae gweithio’n galed a bod yn benderfynol wedi talu ar ei ganfed i fyfyriwr o Brifysgol Bangor yr wythnos hon wrth iddo raddio â gradd dosbarth cyntaf yn ogystal ag ennill rhai o brif wobrau’r Brifysgol.
Graddiodd Robin Owen o Benygroes, sy’n 21 oed ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Nantlle, â gradd BSc dosbarth cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon ac Addysg Gorfforol. Enillodd Robin wobr Dr John Robert Jones sy’n werth £1500, a ddyfernir yn flynyddol i dri o'r myfyrwyr gorau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol. Hefyd, enillodd wobr Sarah Smythe am y marc uchaf yn ystod y flwyddyn mewn gradd gwyddorau chwaraeon yn ogystal â Gwobr Prosiect Seicoleg am y marc uchaf yn ystod y flwyddyn mewn prosiect rheolaeth echddygol/seicoleg chwaraeon.
Ganed Robin yn Awstria a symudodd i ogledd Cymru gyda'i deulu yn 2004.
Dywedodd Robin: "Dwi’n caru gogledd Cymru, ac yn ffodus i mi, mae gan yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mangor enw gwych. Wnes i ddim yn eithriadol o dda yn fy arholiadau TGAU a Lefel A, er bod yr athrawon wedi bod yn wych, ond ar ddechrau fy ngradd mi wnes i benderfynu gwneud cymaint o ymdrech ag y medrwn i. Felly, dw i ar ben fy nigon fy mod i wedi ennill gwobr John Robert Jones!”
"Yn ystod y tymor roeddwn yn hyfforddi ac yn gwirfoddoli yn fy ysgol leol a gyda chlybiau chwaraeon ym Mangor. Roedd cydbwyso gwaith Prifysgol a’r ymrwymiadau hyn yn eithaf trwm weithiau. Ro’n i hefyd yn gysylltiedig â Codi Gôl, cyfres deledu gan S4C lle roedd tîm o famau a thadau o dîm pêl-droed Iau yn Amlwch yn cystadlu am y cyfle i chwarae yn erbyn tîm o rieni o Lydaw yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016. Roedd yn gyfle gwych i weithio gydag Owain Tudur Jones, cyn-chwaraewr i dîm Abertawe.”
"Hanner ffordd drwy fy nhrydedd flwyddyn penderfynais i wneud cais am Ysgoloriaeth PhD ym Mangor. Bydd y PhD yn canolbwyntio ar sgiliau caffael - ac mae hynny'n rhywbeth y mae gen i ddiddordeb mawr ynddo fo o ganlyniad i’r holl waith hyfforddi dw i wedi'i wneud. Ro’n i’n gwybod fy mod i o dan anfantais fawr gan nad oes gen i radd Meistr, heb sôn am y ffaith nad oeddwn wedi graddio, felly roedd cael cynnig cyfweliad yn beth eithaf annisgwyl! Ar ôl llawer o waith paratoi fe wnes i guro’r holl ymgeiswyr eraill; dwi ddim yn gwybod os bydda i fyth mor hapus eto â’r adeg y ces i wybod fy mod i’n mynd i fod yn dechrau gwneud PhD ym mis Gorffennaf!"
Straeon perthnasol:
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynorthwyo tîm pêl-droed newydd yn Amlwch
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016