Myfyriwr blwyddyn olaf mewn gwyddorau biofeddygol yn gwneud darganfyddiad pwysig ym maes canser
Mater sydd wedi peri penbleth ym maes bioleg canser ers cryn amser yw sut y gall y rheolydd Cdc2, sy'n rheoli twf celloedd, fod yn weithredol ac anweithredol yr un pryd. Mae celloedd dynol yn rhoi'r gorau i ymrannu pan ddigwydd difrod genetig drwy atal Cdc2 rhag gweithredu, ond mae arnynt angen Cdc2 gweithredol hefyd i gael gwared ar ddiffygion genomaidd.
Darganfu Victoria Hilditch, myfyriwr blwyddyn olaf mewn Gwyddor Biofeddygol yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, bod Cdc2 yn bodoli mewn saith ffurf wahanol. Datgelodd gwaith pellach gan ei goruchwyliwr, Dr Thomas Caspari, mai dim ond dwy ffurf sy'n atal celloedd rhag ymrannu, tra bod dwy ffurf wahanol yn helpu'r gell i drwsio difrod genetig.
Eglurodd Dr Thomas Caspari: "Mae llawer o ganserau'n dechrau pan nad yw addasiadau genomaidd yn cael eu trwsio'n briodol. Fe wnaeth darganfyddiad Victoria o saith o wahanol ffurfiau ar Cdc2 ddatrys y pos o sut y gall yr ensym hwn, sy'n hybu twf, fod yn weithredol ac anweithredol yr un pryd. Mae'r saith ffurf hyn yn gwahaniaethu yn eu patrwm addasu sy'n galluogi celloedd i'w defnyddio mewn gwahanol ffyrdd.
"Tra bo rhai addasiadau'n drafftio'r ensym i reoli twf celloedd, mae eraill yn ei recriwtio i'r peirianwaith trwsio. Mae hwn yn ddarganfyddiad pwysig gan fod yr ensym Cdc2 yn cael ei gam-reoleiddio mewn llawer o ganserau sy'n crynhoi difrod DNA. Mae gwaith Victoria'n dangos manteision addysgu wedi'i seilio ar ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol."
Ychwanegodd Victoria: "Treuliais ran sylweddol o'm project blwyddyn olaf mewn labordy ymchwil canser; roedd yn gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd a gweld sut mae labordai gweithrediadol llawn yn gweithredu. Fe wnes i fwynhau'r agwedd hon ar fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor yn fawr iawn, yn arbennig pan ddeuthum ar draws canlyniad annisgwyl a oedd yn dangos y gwahanol ffurfiau ar Cdc2 sy'n bodoli, wedi'u seilio ar eu patrymau ffosfforyleiddiad unigryw."
Mae gwaith Victoria wedi cael ei gyhoeddi bellach yn y cyfnodolyn pwysig, PLOS ONE, y ceir mynediad agored ato (http://dx.plos.org/10.1371/journal.pone.0130748).
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015