Wythnos Ymwybyddiaeth Gofal Cefn 3 - 8 Hydref 2016
Mae Ned Hartfiel, myfyriwr a raddiodd gyda PhD mewn Economeg Iechyd o Brifysgol Bangor, yn gobeithio lleihau poen cefn ac absenoldeb o’r gwaith yn y DU drwy ledaenu ei raglen cefn iach drwy gwmni sydd newydd ei sefydlu ganddo.
Roedd ymchwil Ned yn y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, yn ymwneud â phoen cefn ac absenoldeb gwaith a achosir gan y cyflwr; problem sy'n cael ei gwaethygu gan natur eisteddog gweithio mewn swyddfa. Mae ffigyrau diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod bron i 31 miliwn o ddyddiau gwaith wedi eu colli yn 2013 oherwydd problemau gyda’r cefn, y gwddf a’r cyhyrau, ar gost o £14bn y flwyddyn.
Daw Ned yn wreiddiol o Minnesota, ac ymgeisiodd am fisa Mentergarwch Graddedig Haen 1 er mwyn cymryd y cam nesaf ar ôl ei ymchwil, a gwneud cyfraniad cadarnhaol at iechyd a lles gweithwyr yn y DU.
Mae'r Rhaglen Cefn Iach yn cynnwys sesiynau wythnosol yn y gweithle gyda hyfforddwyr cymwys, sydd yna’n cael eu cefnogi gan ddeunyddiau hyfforddi hawdd eu dilyn ar-lein ac oddi ar lein. Mae’r Rhaglen wedi ei seilio ar dystiolaeth, ac wedi ei phrofi mewn tri threial clinigol. Dangosodd astudiaeth ar hap wedi ei rheoli yn ddiweddar bod gweithwyr oedd yn dilyn y rhaglen dros gyfnod o chwe mis yn llai tebygol o fod yn absennol oherwydd poen cefn a chyflyrau cyhyrysgerbydol
Wedi gweithio gyda Ned yn ystod y treial, gofynnodd Uned Iechyd Galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am raglenni wyth wythnos ychwanegol er mwyn i ragor o’u staff gael budd ohonynt. Y cam naturiol nesaf oedd sefydlu cwmni, a gwnaeth Ned hynny gyda’r gefnogaeth a’r hyfforddiant sydd ar gael gan raglen Byddwch Fentrus Prifysgol Bangor. Mae ei gwmni wedi ei leoli ym Methesda, Gwynedd.
Yn ôl Dr Peter Oliver, meddyg ymgynghorol iechyd galwedigaethol annibynnol sy’n gweithio gyda sawl corff cyhoeddus a phreifat yng ngogledd Cymru a Swydd Gaer, “dylai’r rhaglen hon fod ar gael ym mhob gweithle.”
Pan ofynnwyd iddo beth sy'n gwneud ei fusnes yn unigryw, dywedodd Ned ei fod yn:
‘cynnig rhaglen hygyrch, syml, hawdd ei dysgu o ymestyn, cryfhau, anadlu ac ymlacio y gall unrhyw un ei dilyn yn y gwaith neu gartref. Dim ond mat ioga neu fat ymarfer ac oddeutu 15 - 20 munud y dydd sydd ei angen. Hefyd, mae'r rhaglen wedi profi yn y treialon clinigol ei bod yn rhaglen effeithiol a chost-effeithiol.’
Daeth y syniad o ddechrau ei fusnes ei hun i Ned mewn seminar fentergarwch a gynhaliwyd yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mawrth 2016 lle gwahoddwyd pobl i gynnig syniadau am fusnes newydd.
Meddai Ned, 'Gwnes gynnig a chefais adborth ffafriol gan drefnwyr a hwyluswyr y seminar. Wedyn, derbyniais gyngor busnes rheolaidd gan y tîm Byddwch Fentrus wrth baratoi at fy nghyfweliad Fisa Mentergarwch ym Mehefin 2016'.
Enillodd Ned £500 drwy Wobrau Mudoledd Menter Prifysgolion Santander hefyd, a galluogodd hynny ef i deithio i Lundain a Chanolbarth Lloegr i gwrdd â Swyddogion Iechyd Galwedigaethol ac Iechyd a Diogelwch Corfforaethol mewn ysbytai a chwmnïau mawr. Roedd y cyfarfodydd wyneb yn wyneb hyn, ym marn Ned, yn hollbwysig wrth adeiladu perthynas gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn cwmnïau mawr a fydd yn gweithredu'r Rhaglen Cefn Iach.
Ar sefydlu ei fusnes, dywedodd Ned bod:
'dechrau busnes yn golygu heriau rheolaidd: ysgrifennu ac adolygu cynlluniau busnes, paratoi rhagolygon ariannol, dewis ymgynghorwyr busnes, rhyngweithio a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau, prisio, cadw llyfrau, cyfrifo, adeiladu gwefan, cyflogi pobl a bod â phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen, ac eto, mae'n broses gyffrous, egnïol a chreadigol!'
Mae gan Ned uchelgeisiau trawiadol at y dyfodol;
'Fy ngweledigaeth i yw y bydd y Rhaglen Cefn Iach (a'r Rhaglen De-stress newydd) yn cael eu cynnig ym mhob sefydliad GIG a llywodraeth leol yn y DU. Hefyd, rwy'n gweld y rhaglenni hyn yn cael eu cynnig mewn miloedd o gwmnïau preifat a chyhoeddus mawr ar draws y byd'.
Astudiodd Ned am ei radd doethuriaeth yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), sydd bellach yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) y ac o dan yr Ysgol Gwyddorau gofal Iechyd. Cyllidwyd ei ddoethuriaeth mewn economeg iechyd gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gwasanaeth Cefnogi Economeg Iechyd (WHESS), rhan o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac fe’i gorchwylwyd gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, ym Mhrifysgol Bangor a’r Athro Ceri Philips, Prifysgol Abertawe.
Meddai Rhiannon: “Dangosodd ymchwil Ned y gall ioga fod yn gost-effeithiol a bod achos busnes cryf i gyflogwyr hybu lles eu staff ac i osgoi absenoldeb o’r gwaith oherwydd problemau cyhyrysgerbydol.”
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2016