Myfyriwr Prifysgol Bangor wedi ei ddewis ar gyfer Carfan Rygbi Dan 20 Cymru
Mae myfyriwr sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor wedi cael i ddewis ar gyfer carfan rygbi Dan 20 Cymru yng Nghystadleuaeth y 6 gwlad 2016.
Yn athletwyr elit a dderbyniodd Ysgoloriaeth Chwaraeon gan y Brifysgol yn 2015, mae Rhun Williams, 18, o Bontrug wedi ennill capiau i dîm Dan 18 rhyngwladol Cymru yn barod ac mae wedi arwyddo cytundeb gyda thîm academi'r Gleision yn ddiweddar.
Ynglŷn â chael ei ddewis, dywedodd Rhun: “Mae'n anrhydedd mawr cael gynrychioli Cymru ar bob lefel. Cefais yr un wefr dwy flynedd yn ôl pan ddaeth y neges destun i'r ffôn gan hyfforddwr Cymru, yn datgan fy mod wedi fy newis i'r garfan Dan 18. Roedd derbyn fy nghap cyntaf yng Nghlwb Rygbi Abertawe ar ddiwedd y gêm yn erbyn Lloegr yn deimlad ffantastig. Roedd hefyd yn deimlad braf gweld enw gogleddwr arall a chysylltiadau cryf gyda Bangor ar restr 'Capteiniaid' Abertawe, sef Dewi Bebb. Rwy’n gobeithio y byddaf yn medru dyblygu ei gyfraniad i rygbi gogledd Cymru yn y dyfodol.
“Er bod y cap cyntaf yn gofiadwy, mae cyrraedd y garfan Dan 20 eleni wedi bod yn uchelgais gyson i mi dros y flwyddyn. Mae cael fy newis i'r garfan Dan 20 oed, a gobeithio ennill cap Dan 20, yn gam tuag at wireddu uchelgais o chwarae’n broffesiynol. Dyma'r cymal olaf allweddol i mi cyn dechrau gyrfa broffesiynol gyda'r Gleision y flwyddyn nesaf.
“Mae cyfres o 5 gêm yn y bencampwriaeth ac fe fydd 3 o'r gemau ym Mharc Eirias, sef Yr Alban, Ffrainc ar Eidal, ac fe fydd chwarae gartref ar gae RGC1404 yn wefr arbennig. Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r gemau wedi gwerthu allan ac fe fydd clywed y dorf yn canu yn Gymraeg yn wefr arbennig i mi. Bydd aelodau o'r teulu a llawer o ffrindiau yno i fy nghefnogi, ac fe fydd yn brofiad arbennig iawn.
“Mae'r ymarfer ychwanegol ers i mi symud i garfan Tîm 1af RGC1404 wedi bod yn drwm iawn. Rydym yn ymarfer bob dydd, ac mae gofynion ychwanegol i chwarae ambell gêm i'r Gleision. Mae hefyd sesiynau ffitrwydd Cymru yng Nghaerdydd wedi bod yn llenwi rhai penwythnosau. Mae'r gefnogaeth gan y darlithwyr wedi bod yn wych, a gobeithio y byddaf yn medru cynrychioli'r Brifysgol yn broffesiynol a chyda anrhydedd dros y misoedd nesaf.
Ynglŷn â derbyn ysgoloriaeth chwaraeon gan y Brifysgol, dywedodd Rhun: “Heb os mae cefnogaeth yr ysgoloriaeth wedi bod yn gymorth mawr i mi gyda chostau rhedeg car yn ôl ac ymlaen i Fae Colwyn a theithio i Gaerdydd. Rwyf yn ddiolchgar iawn i'r Brifysgol. Mae'r arian wedi bod yn hynod o ddefnyddiol.”
Fydd y Tîm Dan 20 yn teithio i Donnybrook yn Werddon i chwarae'r gêm gyntaf. Mae rhai gemau agos wedi bod rhwng y ddau dîm yn y blynyddoedd diweddar, ond mae Cymru dan 20 wedi dod i’r brig drwy ennill 7 o’r 13 gêm ddiwethaf. Siawns cyntaf Rhun i chwarae o flaen dorf cartref fydd yn erbyn Yr Alban ar y 12fed o Chwefror.
Tîm Cymru Dan 20 i wynebu Iwerddon: Rhun Williams (RGC); Elis-Wyn Benham (Cardiff Blues), Harri Millard (Cardiff Blues), Owen Watkin (Ospreys), Keelan Giles (Ospreys); Dan Jones (Scarlets), Declan Smith (Scarlets); Corey Domachowski (Cardiff Blues), Dafydd Hughes (Scarlets), Dillon Lewis (Cardiff Blues), Shane Lewis-Hughes (Cardiff Blues), Adam Beard (Ospreys), Tom Phillips (captain, Scarlets), Shaun Evans (Scarlets), Harrison Keddie (Newport Gwent Dragons)
Replacements: Ifan Phillips (Scarlets), Robert Lewis (Cardiff Blues), Leon Brown (Newport Gwent Dragons), Bryce Morgan (Newport Gwent Dragons), Morgan Sieniawski (Cardiff Blues), Reuben Morgan-Williams (Ospreys), Jarrod Evans (Cardiff Blues), Joe Thomas (Ospreys)
Gosodiadau Tîm dan 20 Cymru
Iwerddon dan 20 v Cymru dan 20 (05/02/2016)
Cymru dan 20 v Yr Alban dan 20 (12/02/2016)
Cymru dan 20 v Ffrainc dan 20 (27/02/2016)
Lloegr dan 20 v Cymru dan 20 (11/03/2016)
Cymru dan 20 v Yr Eidal dan 20 (18/03/2016)
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2016