Myfyrwyr Bangor yn Brolio am Fuddugoliaeth
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae myfyrwyr meistr Seicoleg Defnyddwyr a myfyrwyr Ysgol Busnes o Fangor wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Brolio/ The Pitch 2014, sydd i’w chynnal ddydd Mawrth 18 Chwefror. Trefnir Brolio/ The Pitch gan y Sefydliad Marchnata Siartredig, cyllidir y gystadleuaeth gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ‘frolio’ eu syniadau mewn cystadleuaeth farchnata o fri.
Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol ‘Pitch Perfect’ yn cynnwys tri myfyriwr meistr mewn Seicoleg Defnyddwyr a Busnes o Brifysgol Bangor. Y ffilm ‘Pitch Perfect’, oedd yn canolbwyntio ar waith tîm a chyrraedd nod cyffredin, oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer enw’r tîm, a’r ffilm honno hefyd yn ffefryn gan bob un o dri aelod y tîm, sef Elin Holbeck o Norfolk, Alison Talbot o Ddulyn a Louise Ainsworth o swydd Bedford. Mae gan y tri aelod i gyd gefndir cadarn mewn seicoleg, a’r cyfan ohonynt wedi cwblhau eu hastudiaethau is-radd yn y pwnc ym Mangor, gan arbenigo mewn gwneud penderfyniadau a schadenfreude, seicoleg addysgol a niwroseicoleg. Gan gyfuno eu gwybodaeth arbenigol, ac wedi’u hysbrydoli gan yr addysg a gawsant ar Ddarbwyllo a Newid Ymddygiad, mae eu gwaith brolio’n anelu at ddangos sut y gellwch ddarbwyllo pobl i fynd am ganlyniad dewisol mewn modd sy’n aml yn syml a chost-effeithiol, ac wedi’i ategu gan ymchwil seicolegol.
Roeddent ymysg y 12 tîm o dri myfyriwr o sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng Nghymru oedd yn brolio’r syniadau a gawsant ar ôl cael cyfarwyddyd gan Gynnal Cymru – Sustain Wales. Rhaid i’r timau ymateb i gyfarwyddyd manwl ac ystyried yn eu cyflwyniadau gyllidebau, offer anfon negeseuon a marchnata, gan ddangos eu dealltwriaeth o senario busnes mewn bywyd go-iawn.
Meddai’r Athro James Intriligator, Seicolegydd Defnyddwyr yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol:
“Mae cyflogadwyedd yn ffocws arbennig iawn yn y Brifysgol, a bydd medrau megis y rheiny a geir wrth gymryd rhan yn y digwyddiad hwn o fudd mawr i’r myfyrwyr pan fyddant yn ymgeisio am swyddi ar ôl gadael y Brifysgol. “Mae hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ddangos eu harbenigedd a’u creadigrwydd, a chael profiad ymarferol gwirioneddol ym mhob agwedd ar farchnata. Mi wn fod y myfyrwyr eisoes wedi dysgu o’r profiad.”
Bydd y tri thîm o Fangor ymysg 12 tîm sydd yn cyflwyno ‘broliant’ tri munud o hyd i banel o feirniaid. Bydd tri yn cael eu dewis i gyflwyno yn y rownd Derfynol, ac yn cael y cyfle i wneud hyn o flaen cynulleidfa fawr yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.
Yn ôl Sara Parry, darlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Fusnes y Brifysgol, a fu’n mentora dau dîm, “Mae Brolio/The Pitch yn brofiad gwych i fyfyrwyr sy’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn marchnata. Mae’r Briff sy’n cael ei osod yr union un fath ag un fyddai’n cael ei dderbyn gan asiant marchnata go iawn, ac mae’n gyfle i’r myfyrwyr arddangos eu creadigrwydd a’u meddwl strategol o flaen arbenigwyr o’r diwydiant. Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn darparu cyfle gwych i gael profiad ymarferol o farchnata ac yn werthfawr wrth wella cyflogadwyedd myfyrwyr.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2014