Myfyrwyr Bangor yn ‘Brolio’u’ harbenigedd marchnata yn rownd derfynol cystadleuaeth o fri
Llwyddodd TÎm o Brifysgol Bangor i gyrraedd Rownd derfynol ‘Brolio/ The Pitch’, cystadleuaeth marchnata bwysig a drefnwyd gan y Sefydliad Marchnata Siartredig sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gyflwyno’u syniadau mewn cystadleuaeth o fri.
Cafodd TÎm ‘National Thrust’ sef James Gudgeon, Bryan Walles, a James Gillespie, myfyrwyr sy’n arbenigo mewn seicoleg y defnyddiwr, cyfle i cyflwyno’u syniadau o flaen cynulleidfa o bobl broffesiynol ym maes marchnata a’r beirniaid mewn digwyddiad yn adeilad y Senedd.
Bu tri thîm arall o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, un tîm arall o fyfyrwyr sy’n arbenigo mewn seicoleg defnyddwyr a dau dîm o fyfyrwyr sy’n astudio marchnata yn Ysgol Busnes y Brifysgol ymysg y 12 tîm o dri myfyriwr o sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru.
Roedd y briff yn gofyn iddynt gyflwyno ffyrdd arloesol o hybu gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Tasg y timau oedd ymateb i’r brîff manwl ac ystyried cyllidebau, negeseuon ac offer marchnata yn eu cyflwyniadau, gan ddangos eu dealltwriaeth o sefyllfa busnes go iawn.
Meddai Dr James Intriligator, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Defnyddwyr yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol,
“Mae’r brifysgol yn rhoi pwyslais arbennig ar gyflogadwyedd a bydd y sgiliau a enillir wrth gymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn fuddiol iawn i’r myfyrwyr pan fyddant yn ymgeisio am swyddi ar ôl graddio. Roedd hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ddangos eu harbenigedd a’u creadigrwydd ac i gael profiad ymarferol o bob agwedd ar farchnata. Rwy’n gwybod bod ein myfyrwyr eisoes wedi elwa o’r profiad."
Dywedodd Sara Parry, Darlithydd Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor, “ Roedd y gystadleuaeth yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau academaidd.”
Enillwyd y gystadleuaeth y llynedd gan dîm o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor gyda Dr Intriligator yn eu mentora.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2013