Myfyrwyr o bedwar ban byd yn cymryd rhan yn y 4edd Ysgol Haf Flynyddol ar y Meddwl Greddfol ym Mhrifysgol Bangor
Ar gyfer yr Ysgol Haf ar y Meddwl Greddfol, a gynhaliwyd o 2 tan 6 Medi 2013 yn y Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, cafwyd mwy na 190 o ymgeiswyr â chymwysterau uchel am y 40 o leoedd a oedd ar gael. Erbyn hyn, mae’r Ysgol Haf yn ei 4edd flwyddyn, ac wedi profi’n boblogaidd ymysg ymchwilwyr ifainc, uchelgeisiol sy’n awyddus i gyfranogi yn yr arbenigedd o safon fyd-eang sydd gan Seicoleg ym Mangor ym maes niwrowyddoniaeth wybyddol. Prif amcan y cwrs, a gefnogir gan Sefydliad James S. McDonnell, yw gwneud iawn am unrhyw ddiffygion a fo mewn gwybodaeth niwro-anatomegol ymysg niwrowyddonwyr ifainc sy’n deillio, o leiaf yn rhannol, o’r prinder o feinwe ymenyddol sydd ar gael i ddarparu’r hyfforddiant hwn i fyfyrwyr y tu allan i UDA.
Meddai Cyfarwyddwr y Cwrs, Bob Rafal FLSW: “Ni all dim byd gymryd lle’r profiad trawsffurfiadol sy’n dod o archwilio’r ymennydd dynol, na ffordd well o ddysgu, trwy weld a chyffwrdd, am yr ymennydd tri-dimensiwn.”
Ymunodd 2 academydd gwadd â’r Athro Rafal, sef Dr C. Harker Rhodes, MD, PhD o’r Adran Niwrobatholeg, Ysgol Feddygol Dartmouth, UDA a Dr Antoni VALERO-CABRÉ, M.D, PhD o’r Hôpital de la Pitié Salpêtrière, Paris, Ffrainc a’r Adran Anatomeg a Niwrofioleg, Prifysgol Boston, UDA a gyfrannodd, ill dau, at ddysgu ar y rhaglen.
Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i greu niwro-anatomeg weithredol yr ymennydd dynol trwy dangos yr effaith a gaiff anafiadau i’r ymennydd ar gleifion niwrolegol, a chyfuno’r arsylwadau hyn â gwaith mewn labordai niwroddelweddu clinigol a niwro-anatomeg. Caiff myfyrwyr gyfle i ddysgu mwy am amrywiaeth eang o symptomau niwrolegol, yn cynnwys rhai sy’n brin iawn, yn cynnwys datgysylltiad dwy ochr yr ymennydd (ymennydd hollt), amnesia, ac agnosia – anallu i adnabod gwrthrychau neu seiniau. Mae ymarferion mewn labordai ym maes anatomeg ddynol, niwroddelweddu a symbylu’r ymennydd yn amlygu’r strategaeth ddysgu ymarferol sydd wrth wraidd y cwrs.
Ers 3 blynedd, mae’ cwrs hwn wedi denu 120 o fyfyrwyr o 20 o wledydd ar draws y byd, yn cynnwys Ariannin, Ciwba, yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, Lithwania, De Affrica, Singapôr, Canada, Israel, yr Almaen, yr Iseldiroedd a’r Weriniaeth Slofacaidd, a myfyrwyr o wledydd datblygol yn cael blaenoriaeth o ran eu derbyn. Trwy hynny, bu modd i’r rhai a orffennodd y rhaglen fynd â’r technegau ymchwil a’r wybodaeth flaengar a ddysgasant ym Mangor yn ôl i’w gwledydd eu hunain er mwyn cynnal ymchwil yn y materion niwrolegol hollbwysig hyn ar draws y byd.
Meddai Haike van Stralen, o Brifysgol Utrecht yn yr Iseldiroedd: “Roedd Ysol Haf y Meddwl Greddfol yr union beth yr oeddwn yn gobeithio amdano, ac efallai’n fwy fyth. Yn ddiweddar, cychwynnais ar fy PhD a sylwi ar rai ‘bylchau’ yn fy ngwybodaeth, yn enwedig o ran niwro-anatomeg. Yn bendant, llwyddodd y cwrs hwn i lenwi’r bylchau hyn. Er bod yr wythnos yn eithaf dwys, gan roi llawer o wybodaeth o fewn amser byr, mae’r cwrs wedi’i drefnu mor dda fel bod yr awyrgylch yn hamddenol, a cheir amser hefyd i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr PhD neu ôl-ddoethurol a thrafod ymchwil neu gydweithredu arni.”
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2013