Pencampwraethau'r Byd llwyddiannus i Catrin
Mae Catrin Jones, myfyrwraig Prifysgol Bangor sydd hefyd yn enedigol o’r ddinas, wedi cyrraedd y pedwerydd safle ym Mhencamwriaethau Iau Codi Pwysau’r Byd, a gynhaliwyd yn Wsbecistan yn ddiweddar.
A hithau wedi cystadlu dros Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn ddiweddar, mae Catrin hefyd newydd ennill prif wobr chwaraeon Prifysgol Bangor, sef Gwobr Goffa Llew Rees.
Meddai tad Catrin, David Jones, sydd hefyd yn ei hyfforddi ac sy’n Rheolwr ffitrwydd yng Nghanolfan Brailsford, am lwyddiant diweddaraf ei ferch:
“Mae cael ei gosod yn bedwerydd yn y byd yn gyrhaeddiad gwych ar ôl taith mor fyr ac wedi Gemau’r Gymanwlad.”
Mae’r fyfyrwraig, sydd newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf yn astudio Seicoleg, yn sicr yn gwneud ei marc ym myd chwaraeon – hi hefyd oedd Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2017 y BBC.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018