Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau
Rhai o gerddorion ifanc Codi'r To.Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To, menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi a fu’n cymryd rhan.
Rhoddodd y dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI) a gynhaliwyd gan Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor (CHEME), gwerthoedd ariannol yn erbyn pob agwedd ar fuddiannau gweithgareddau Codi’r To gyda disgyblion mewn dwy Ysgol yng Ngwynedd a chanfod bod bob £1 a wariwyd yn creu gwerth cymdeithasol cyfwerth a £6.69.
O’r 50 o rieni a gyfwelwyd, roedd 92% ohonynt yn cytuno bod hyder eu plentyn wedi cynyddu a bod ymddygiad eu plentyn y tu allan i’r ysgol wedi gwella. Roedd yr amcangyfrif adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiadau hefyd wedi datgelu bod y buddiannau yn llawer mwy eang, gyda theuluoedd yn elwa o berthynas gwell gyda’u plentyn, gyda’r ysgol a chyda’r gymuned.
Mae Codi’r To yn dilyn trefn project El Sistema a ddatblygwyd yn Venezuela ac mewn sawl gwald arall led led y byd. Mae’r gweithgareddau cerddorol i blant yn mynd i’r afael ar anfanteision a chyraeddiadau addysgol mewn ardaloedd amddifadedd lluosog, er budd y plant, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae elusen Codi’r To yn cynnal sesiynau cGweithgareddau Codi To yn y dosbartherddorol mewn dwy ardal ddifreintiedig yng Ngwynedd, yn Ysgol Glan Cegin, Bangor ac Ysgol Maesincla, Caernarfon.
Fel yr esbonia’r Athro Rhiannon Tudor Edwards, un o awduron yr adroddiad:
“Mae Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI) yn ein galluogi i fesur amrediad eang o elfennau anniriaethol fel effaith cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y rhaglen, drwy briodoli gwerthoedd i’r elfennau hyn. Roedd hefyd yn ein galluogi i roi ystyriaeth nid yn unig i’r disgyblion ei hunain, ond hefyd i’r gwerth i’w hysgolion, eu cartrefi a’r gymuned ehangach.”
Meddai cyd-awdur yr adroddiad, Eira Winrow:
“Mae Codi’r To yn creu gwerth cymdeithasol sylweddol o rhwng £4.59 a £8.95 am bob punt a fuddsoddir. Fel y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn wynebu toriadau pellach i’w gyllidebau, mae parhau’r ddarpariaeth cerddoriaeth mewn ysgolion yn dod yn fwy o her. Dyma’r dadansoddiad SROI gyntaf yng Nghymru sy’n dangos effaith positif cerddoriaeth mewn ysgolion a’r gwerth mwy eang sy’n cael ei greu drwy raglenni fel Codi’r To.”
Rhai o berfformwyr iau Codi'r To.Meddai Carys Bowen, Cydlynydd Codi’r To:
‘’ Rydym wrth ein boddau gyda chanlyniadau’r adroddiad gwerthuso sydd yn ail-gadarnhau’r hyn yr ydym wedi credu ers dechrau project Codi’r To, sef bod sawl budd i addysg cerddoriaeth, a gall y rhain fod yn gymorth wrth drawsffurfio bywydau, gyda chanlyniadau positif i ddisgyblion, ysgolion a’r gymuned yn fwy eang.’’
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018