Rhyl Scoops yn cynnig profiad Parlwr Hufen Iâ traddodiadol
Y Tîm yn profi eu cynnyrch yw ( chwith i dde): Louise Ainsworth; Daniel Taylor; Kate Isherwood a Emma Dixon.Ydych chi’n mwynhau’r tywydd braf? Os ydych chi yng nghyffiniau'r Rhyl, yna pam na wnewch alw heibio am hufen iâ bendigedig ym mharlwr hufen iâ Rhys Scoops, a fydd ar agor am wythnos yn unig rhwng 23-30 Mehefin.
Mae Rhyl Scoops yn gobeithio gwneud eu marc gyda’u hethos menter gymdeithasol ac ymrwymiad at hyfforddi, ond efallai mai’r hufen iâ blas pwdinau sy’n denu sylw sawl un!
Ynghyd â hufen iâ blasau fanila, siocled a mefus, ac un mint efo darnau siocled a darnau diliau mêl (honeycomb) sy’n swnio’n flasus, mae’r parlwr Hufen Iâ’n cynnig blasau hufen iâ pwdinau traddodiadol fel pwdin taffi gludiog a meringue lemwn.
Ffrwyth dychymyg a menter tîm o fyfyrwyr seicoleg o Brifysgol Bangor, sef Daniel Taylor, Emma Dixon, Kate Isherwood a Louise Ainsworth yw’r cyfan.
Mae’r Tîm yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth genedlaethol ar draws y DU, Test Town 2014. Ar gyfer y gystadleuaeth, maent yn agor siop wag yn Stryd Fawr y Rhyl, er mwyn profi eu gallu i sefydlu busnes dichonadwy mewn dim ond un wythnos.
Mae Test Town yn gystadleuaeth genedlaethol a gynhelir gan Carnergie UK Trust fel y gall pobl ifanc mentrus agor ‘siopau codi’, ac mae'r Rhyl yn un o wyth o drefi ar hyd a lled y DU sydd wedi ei dethol i gymryd rhan.
Nod y siopau codi hyn yw addysgu'r cyfranogwyr a hefyd, ysbrydoli'r bobl leol, ac mae Rhyl Scoops yn un o bum tîm a fydd yn bywiogi canol dref Y Rhyl am yr wythnos gan obeithio troi syniad yn llwyddiant masnachol a moesegol.
Bydd Rhyl Scoops yn gwerthu hufen iâ ffres a gynhyrchwyd yn lleol. Y syniad y tu ôl i’r parlwr yw creu busnes lle mae'r gweithwyr yn cael hyfforddiant ac ennill cymwysterau NVQ lletygarwch, yn cefnogi busnesau lleol eraill a’i fod hefyd yn lle cymdeithasol i ymlacio a hel atgofion am Y Rhyl yn y gorffennol a'r presennol.
Meddai aelod o'r tîm, Emma Dixon:
"Roeddem eisiau rhywbeth a fyddai nid yn unig yn ein hatgoffa am yr hen lan y môr traddodiadol, ond hefyd yn helpu a gwobrwyo'r bobl leol yn Rhyl. Mae'n deimlad anhygoel y bydd rhywbeth nad oedd yn fwy na dim ond syniad yn dod yn fusnes gweithredol mewn ychydig o wythnosau," meddai.
Meddai'r Athro James Intriligator, Cyfarwyddwr rhaglen meistr Seicoleg Defnyddwyr a Busnes ym Mangor: "Rwyf yn arbennig o falch o'r tîm hwn. Nid oes pendraw i'w brwdfrydedd a'u creadigrwydd. Fis diwethaf roeddent yn cystadlu yn yr her busnes Flux, lle ddaethant yn ail a dychwelyd yn barod am ragor o sialensiau. Maent yn cydweithio'n arbennig o dda fel tîm, ac rydw i’n siŵr y byddant yn gwneud ymdrech fawr i geisio ennill y sgŵp cyfan o £10,000."
Bydd Tîm buddugol o’r wyth tref yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y rownd derfynol yng Nghaergrawnt, â’r cyfle i ennill £10,000 tuag at gychwyn busnes.
Derbyniodd Tîm Bangor gefnogaeth ac anogaeth gan dîm Byddwch Fentrus Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Brifysgol. Maent wedi ymrwymo i annog a hyrwyddo’r math yma o weithgarwch mentrus, gyda chymorth gan gyllid Canolfannau Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2014