Sut ddylai’r athletwyr gorau baratoi i ymdopi â gwres?
Er mwyn cystadlu ar eu gorau mewn hinsawdd gwlad boeth, mae’n ofynnol i athletwyr o’r safon ddod i’r arfer â’r hinsawdd yno.
Er mwyn gwneud hyn, mae athletwyr fel rheol yn ymarfer mewn gwres am 10-14 diwrnod er mwyn i’w cyrff gynefino â’r gwres un ai drwy symud i wlad boeth i ymarfer neu, i’r ychydig ffodus, ymarfer yn ddyddiol mewn siambr amgylcheddol sy’n efelychu hinsawdd gwlad boeth.
Mae hyn yn galluogi eu cyrff i berfformio i’r eithaf, ond nid yw’r dewisiadau hyn ar gael i bawb.
Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dangosodd yr Athro Walsh a’i dîm yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, bod cael bath poeth wedi ymarfer mewn amgylchiadau mwyn am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn sbarduno newidiadau yn y corff sy’n dynwared sut y mae’r corff yn cynefino â thywydd poeth.
Meddai’r Athro Walsh: “Mae ein canlyniadau’n dangos bod cymryd bath poeth wedi ymarfer mewn amgylchiadau mwyn am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn gostwng tymheredd corff wrth orffwys a gwella perfformiad wrth redeg o 5%”
Yn aml, mae gofyn i athletwyr gystadlu mewn gwres uchel ond gwres yw gelyn perfformiad da. Mae’r corff yn chwysu er mwyn oeri, ond mae hyn yn rhoi straen ar y system gardiofascwlar sy’n arwain at flinder a lleihad mewn perfformiad.
Ychwanegodd: “ Rydym yn cydnabod hefyd fod y strategaeth wahanol yma o gael y corff i gynefino â gwres yn groes i ddulliau athletwyr o weithredu ar hyn o bryd, sydd yn cynnwys mynd i fath rhew wedi ymarfer, arfer a elwir yn ‘cryotherapi’. “ Rydym yn credu mai’r mantra newydd i berfformwyr athletaidd sy’n cystadlu mewn gwres, yw ‘ymarfer oer, ymdrochi poeth’”
Er bod y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth wedi ymdrochi am hyd at 40 munud mewn dŵr 40°C wedi ymarfer, efallai y gellir cael budd o ymdrochi am gyn lleied ag 20 munud. Mae’r arbenigwyr yn argymell gweithredu mewn ffordd synhwyrol a diogel wrth ymgynefino â gwres.
Mae canllawiau ymarferol (Saesneg) ar gael yn: http://www.mysportscience.com/single-post/2016/06/15/Hot-bath-and-performance-Practical-guidelines
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016