Y rhesymau dros gymryd rhan mewn gweithgareddau risg uchel yn cael eu datgelu am y tro cyntaf
Ers dros 50 mlynedd, meddyliwyd mai "chwilio am gyffro" oedd cymhelliad pobl dros gymryd rhan mewn gweithgareddau risg uchel. Mae gwaith ymchwil newydd yn herio'r farn simplistig honno'n llwyr.
Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn ceisio dringo Everest, ateb enwog George Mallory oedd "Oherwydd ei fod yno". Nid yw'r ymateb enigmatig hwn yn egluro'n ddigonol pam fod pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau peryglus. Nid yw gwaith ymchwil wedi dod o hyd i ateb llawer gwell, a dros y 50 mlynedd diwethaf roedd modelau seicoleg sefydledig yn disgrifio pobl oedd yn cymryd risgiau fel pobl oedd yn chwilio am wefr. Ond, nid yw'r farn honno'n cymryd i ystyriaeth y gwahanol gymhellion dros gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau peryglus, sy'n gallu amrywio o wneud naid bynji, i gamddefnyddio cyffuriau, i yrru'n beryglus.
Mae ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi torri tir newydd drwy ddatrys yn union pa anghenion sy'n cael eu diwallu wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau peryglus. Mae'r ymchwil yn dangos hefyd bod rhai gweithgareddau peryglus o fudd i ddatblygiad dynol, ac yn rhan angenrheidiol o fywyd dynol.
Gan ddefnyddio awyrblymio a mynydda fel enghreifftiau, mae'r ymchwilwyr wedi profi am y tro cyntaf bod gwahanol gymhellion yn gyrru pobl i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau peryglus. Maent hefyd wedi creu dull newydd wedi'i ddilysu o archwilio'r ffyrdd y mae gwahanol weithgareddau peryglus yn bodloni anghenion gwahanol.
Mae seicolegwyr yn y Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elitaidd yn dadlau nad yw mynd ar daith fynydda neu begynol yn cael ei chymell gan awch am wefr yn yr un ffordd ag awyrblymio, dyweder. Yn wir, mae mynd ar deithiau felly'n cynnwys cynllunio trylwyr a gwaith caled, undonog a llafurus iawn yn aml, felly nid yw'n dod â phleser yn y fan a'r lle i rywun. Mae'r ymchwilwyr yn dadlau fod y model hwn o weithgarwch peryglus wedi siapio rhywfaint ar y gymdeithas ddynol. Mewn geiriau eraill, nid yw perygl yn air budr - mae'n anghenraid dynol; mae'r byd wedi esblygu diolch i'r rhai hynny sy'n fodlon mentro.
Felly beth yw’r gwahaniaeth rhwng cymhellion a boddhad y ddau fath o weithgareddau peryglus, a beth yw apêl y profiad i fynyddwyr?
Yr Athro Tim Woodman, a arweiniodd yr ymchwil, sy'n egluro: "Er bod awyrblymwyr yn mwynhau'r wefr sydyn sy'n codi o'r gweithgaredd, mae mynyddwyr yn ennill rhywbeth mwy. Maent yn dysgu o'u profiad ac yn trosglwyddo'r profiad hwnnw i'w bywyd bob dydd. Maent yn gwneud hyn drwy astudio, ac wedyn concro, anhawster y sefyllfa. Mae gofyn iddynt reoli'u hemosiynau mewn amgylchedd peryglus a dirdynnol. Mae hon yn broses adeiladol.
Yn ddiddorol iawn, mae'r rhain yn bobl sy'n aml yn teimlo nad oes ganddynt reolaeth dros eu bywyd emosiynol bob dydd, ond maent yn teimlo fod ganddynt reolaeth dros yr amgylchedd peryglus, emosiynol. Yn y ffordd hon, mae'r amgylchedd peryglus yn ddirprwy i'r cysylltiadau emosiynol, gyda'r gwahaniaeth bod yr amgylchedd peryglus yn sefyllfa lle mae'r un sy'n cymryd rhan wedi dewis agor ei hun i emosiynau negyddol. Yn syml, mae perthnasau emosiynol rhwng pobl yn llawn anawsterau emosiynol, ac mae'n haws delio â hynny drwy hongian oddi ar glogwyn.
Ychwanega'r Athro Woodman: "Mae mynydda'n ddeniadol am ei fod yn herio'r unigolyn mewn ffordd na chaiff ei herio mewn bywyd bob dydd. Hefyd, rydym wedi darganfod bod gan fynyddwyr ddisgwyliadau uwch o'u bywydau eu hunain. Mae'r rhain yn bobl sydd am gyrraedd y brig, yn llythrennol ac yn drosiadol. Dim ond pan fyddant yn gwthio ffiniau'r hyn sy'n gorfforol bosib y maent yn teimlo profiad emosiynol y maent yn ei ystyried yn normal iddynt, ac mae'r teimlad hwn wedyn yn eu cynorthwyo i reoli meysydd eraill yn eu bywyd. Nid perffeithiaeth yw hyn; mae bod â disgwyliadau uchel o fywyd yn gyffredinol yn gwthio pobl i gyflawni pethau mawr."
Mae'r ymchwil wedi dangos y dystiolaeth empirig gyntaf bod profi rheolaeth mewn sefyllfa beryglus yn fuddiol i weddill bywyd bob dydd, a bod y rhai sy'n cymryd rhan yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth yn eu bywydau bob dydd hefyd. Mae hyn yn cynnig cyfle i ymchwilio i weld a ellid defnyddio'r ddealltwriaeth newydd hon mewn meysydd eraill. Er enghraifft, efallai y byddai unigolion eraill gydag anghenion emosiynol tebyg yn chwilio am ollyngfa emosiynol drwy ddulliau peryglus gwrth-gymdeithasol fel gweithredoedd anghyfreithlon, gyrru'n beryglus, a defnyddio cyffuriau; ond, efallai y gellid diwallu eu hanghenion yn well drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n adeiladol, ond yn beryglus yr un fath.
Awgryma'r Athro Woodman: "Gellir defnyddio'n model ar gyfer unrhyw sefyllfa sy'n cynnwys chwilio am wefr a rheoli emosiynau. Mae dal angen ymchwilio a allai rhai o'r manteision gymryd rhan mewn chwaraeon peryglus helpu unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau mwy adeiladol. Mae pobl ifanc yn darganfod eu hunain drwy fentro, ac mae'n debyg bod hyn yn arwain nifer ohonynt ar gyfeiliorn. Mae'r ymchwil hwn yn dangos gollyngfa gadarnhaol i rai sy'n hoff o fentro, a'r trosglwyddiad negatif-i-bositif hwn yw'r don nesaf o ymchwil. Yr hyn sy'n glir yw bod mentro yn beth cadarnhaol, a'i fod yn angenrheidiol er mwyn tyfu. Er enghraifft, os ydym o ddifri ynglŷn â'u hailhyfforddi yna dylid rhoi dewis peryglus ac 'egnïol' i droseddwyr sy'n hoff o fentro, yn hytrach na charchar 'goddefol'."
Mae'r tîm ymchwil wedi cyhoeddi'u canfyddiadau mewn papur: Great expectations: Different high-risk activities satisfy different motives a gyhoeddwyd yn y Journal of Personality & Social Psychology. 10.1037/a0033542.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2013