Ymddangosiad naturiol yn llawer pwysicach na cholur wrth bwyso a mesur dengarwch
Mae’r syniad bod colur yn eich gwneud yn fwy deniadol i’w weld ym mhob man o’n cwmpas. Ar y rhyngrwyd ceir miloedd o diwtorialau ar sut i roi colur, mae cylchgronau ffasiwn yn llawn erthyglau ar hoff goluron enwogion, ac mae llawer o ferched yn teimlo na allant fynd allan o’r tŷ hebddo. Mae’r ymddygiad beunyddiol yma wedi bod yn bwnc ymchwiliadau gwyddonol hefyd, gyda llawer o astudiaethau’n darganfod bod merched nid yn unig yn cael eu hystyried yn fwy deniadol gyda cholur, ond eu bod hefyd yn iachach, yn fwy medrus ac yn fwy hoffus.
Un agwedd ar golur nad yw wedi cael ei hystyried eto yw ei effeithiolrwydd o ran cynyddu dengarwch. A’i roi’n syml, faint yn fwy atyniadol mae colur yn eich gwneud? Meddyliwch am yr amrywiaeth mawr o wynebau rydych yn eu gweld ar eich ffordd i’r gwaith bob dydd, neu pan ydych yn mynd allan i siopa. Mae yna amrywiaeth mawr yn nengarwch pobl. Ydi defnyddio colur yn cydbwyso’r amrywiaeth hwn gan roi’r rhai sy’n defnyddio colur ar dir mwy gwastad a’i gilydd?
Tra oeddent yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, fe wnaeth Dr Alex Jones (nawr o Goleg Gettysburg, Pennsylvania) a’i chydweithiwr, Dr Robin Kramer o Brifysgol Aberdeen, ymchwilio i’r cwestiwn hwn. I wneud hynny fe wnaethant ofyn i’r rhai a oedd yn cymryd rhan yn eu harbrawf ystyried yr un wynebau gyda cholur a heb golur, gyda’r cyfyngiad nad oedd unrhyw unigolyn yn gweld yr un ddynes gyda cholur a hebddo. Os yw colur yn bwysig o ran dengarwch, dylai ddod dros yr amrywiaeth mewn dengarwch rhwng wynebau yn hawdd. Ond, os nad yw’n cyfrannu fawr ddim, yna gallai’r amrywiaeth naturiol rhwng wynebau orbwyso unrhyw fanteision o ddefnyddio colur.
Y newydd da oedd bod wynebau gyda cholur yn cael eu hystyried yn fwy deniadol – dim byd newydd yn hynny. Ond pan edrychwyd ar yr holl resymau pam roedd pobl yn gweld rhai wynebau’n fwy deniadol nag eraill, dim ond 2% o wahaniaeth oedd defnyddio colur yn ei wneud i’r sgôr. O’i gymharu, roedd rhesymau eraill pam roedd rhai wynebau’n fwy deniadol nag eraill yn 69%. Roedd y canlyniad hwn yn dipyn o syndod. Gwelwyd bod maint effaith colur ar pa mor ddeniadol yr ystyrir wynebau yn hynod fach mewn gwirionedd.
Beth mae’r canlyniadau hyn yn ei olygu? Meddai Dr Kramer o Brifysgol Aberdeen, “Mae’r darganfyddiadau yma’n dangos, tra bo colur yn cynyddu dengarwch, eto’i gyd mae’n elfen fach iawn ym marn pobl pam fod rhai wynebau’n fwy deniadol nag eraill.”
Ychwanegodd Dr Alex Jones : “Mae yna lawer o resymau pam mae merched yn rhoi colur ac un o’r rhesymau hynny efallai yw anfodlonrwydd efo’u hymddangosiad. Mae delwedd y corff yn rhywbeth sy’n cael sylw mawr iawn mewn cymdeithas fodern ac rydym wedi dangos o’r blaen bod llai o golur yn cael ei ystyried yn fwy deniadol. Y neges amlwg o’r astudiaeth yma, p’un a ydym yn ei hoffi ai peidio, yw bod ein dengarwch yn cael ei bennu i raddau helaeth gan ein hymddangosiad naturiol ac na fydd defnyddio colur yn cael llawer iawn o effaith ar hynny.”
Cyhoeddwyd y papur yn y cyfnodolyn Perception: Perception 44 (1) 79-86
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2015