Ymwybyddiaeth ofalgar ar frig yr agenda wrth i Weinidog yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd Meddwl ymweld â Phrifysgol Bangor
Bu i Luciana Berger, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd Meddwl, dreulio'r prynhawn yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor i gwrdd â'u tîm a thrafod ymwybyddiaeth ofalgar mewn cymdeithas. Wedyn, cyflwynodd Ms Berger ddarlith gyhoeddus y Dirprwy Is-ganghellor Yr Athro Oliver Turnbull ar Niwrowyddoniaeth i Seicotherapyddion.
Yn ystod y cyfarfod o gwmpas y bwrdd crwn, rhoddwyd y newyddion diweddaraf i Ms Berger ar yr hyfforddiant a'r ymchwil y mae CMRP wedi'i wneud ers ei ffurfio dros 10 mlynedd yn ôl, a bu iddi sgwrsio â Chris Ruane, cyd-sylfaenydd Grŵp Seneddol yr Holl Bleidiau ar Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Mae'r ganolfan yn rhan o Ysgol Seicoleg uchel ei pharch Bangor, a hon oedd y ganolfan gyntaf yn Ewrop wedi ymrwymo i hyfforddiant mewn dulliau ymwybyddiaeth ofalgar, a'r gyntaf i sefydlu rhaglen Meistr mewn ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'r Ganolfan wedi hyfforddi mwy na 1,200 o weithwyr proffesiynol i ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar. Athro John Parkinson, Athro Oliver Turnbull, Luciana Berger AS, yr Athro Nicky Callow, Chris Ruane cyn Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd
Dywedodd Eluned Gold, seicotherapydd sydd wedi cofrestru â'r UKCP a Phennaeth Datblygu Personol a Phroffesiynol Parhaus yn y Ganolfan, bod gan ymwybyddiaeth ofalgar ran i'w chwarae wrth hybu iechyd a lles mewn unigolion a thrwy gymdeithas. Dywedodd bod dysgu ymwybyddiaeth ofalgar i rieni, yn arbennig yn ystod y cyfnod amenedigol, yn dysgu sgiliau i rieni a fydd yn cefnogi bywyd teulu am oes. Gall profiadau mewn plentyndod cynnar effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol plentyn hyd at ei fywyd fel oedolyn.
Er mwyn cefnogi hynny, mae'r Ganolfan yn ymchwilio i ac yn hyfforddi ymwybyddiaeth ofalgar drwy wahanol gyfnodau bywyd drwy ymwneud â phrojectau fel; Ymwybyddiaeth ofalgar a magu plant, Ymwybyddiaeth ofalgar a geni, Ymwybyddiaeth ofalgar yn y gweithle ac Ymwybyddiaeth ofalgar gydag oedolion hŷn.
Dywedodd Ms Berger:
‘Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei gydnabod fwyfwy fel techneg bwysig ar gyfer rheoli a gwella iechyd meddwl. Mae Prifysgol Bangor ar flaen y gad o ran y gwaith hwn, ac roedd yn wych dysgu mwy am yr hyn maent yn ei wneud. Yn fy swydd fel Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd Meddwl, byddaf yn parhau i godi proffil iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar yn y Senedd.'
‘Dywedodd Eluned Gold, seicotherapydd sydd wedi cofrestru â'r UKCP a Phennaeth Datblygu Personol a Phroffesiynol Parhaus yn y Ganolfan, bod gan ymwybyddiaeth ofalgar ran i'w chwarae wrth hybu iechyd a lles mewn unigolion a thrwy gymdeithas.
‘Er gwaethaf tystiolaeth ragorol a chael ei chymeradwyo gan NICE fel ymyrraeth ar gyfer iselder rheolaidd; mae'r Therapi Gwybyddol wedi'i seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) drwy GIG Lloegr yn dal yn dameidiog iawn. Hoffai 71% o feddygon teulu yn Lloegr gyfeirio cleifion at ymwybyddiaeth ofalgar, ond dim ond 1 mewn 5 sy'n ymwybodol o gael mynediad at ymwybyddiaeth ofalgar yn eu hardal’.
Dywedodd Chris Ruane, cyn Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd a Llywydd Anrhydeddus Grŵp Seneddol yr Holl Bleidiau (APPG) ar ymwybyddiaeth ofalgar:
‘Mae'r APPG ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cefnogi rhagor o ymchwil a gweithredu. Mae'r Ganolfan a Phrifysgol Bangor yn cael eu cydnabod a'u parchu'n rhyngwladol fel canolfan rhagoriaeth mewn addysgu a chynnal ansawdd yn y maes’.
Cyswllt:
Kate Talbot, Swyddfa Luciana Berger AS, 0207 219 7102, kate.talbot@parliament.uk
Sharon Hedley, Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, 01248 383663, sharon.hadley@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2016