Ysbrydoli ar gyfer Perfformiad Brig
Tu ôl i bob athletwr Olympaidd llwyddiannus, bydd ganddo ef neu hi hyfforddwr sy'n eu cefnogi bob cam o'r ffordd i gyflawni eu nod o ddod â medal Olympaidd adref gyda nhw. Mae hyfforddwyr yn chwarae rhan bwysig yn nhaith Olympaidd athletwyr, trwy eu helpu i gyflawni eu perfformiad gorau posibl. Ond mae hyfforddi effeithiol yn hanfodol hefyd mewn nifer o amgylcheddau eraill fel meysydd milwrol, addysg a busnes.
Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP) ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnal ymchwil i’r effaith ysgogol a gaiff hyfforddi ac arweiniad mewn gwahanol leoliadau er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sydd wrth wraidd hyfforddiant ac arweiniad effeithiol.
Mae pwysigrwydd hyfforddi o ansawdd da yn hollbwysig fel y gall athletwyr Olympaidd gyrraedd eu llawn botensial. Bydd deall y math o hyfforddi sy’n cael effaith ar berfformiad a chanlyniadau perthnasol i berfformiad yn helpu hyfforddwyr i wella ansawdd yr hyn y maent eisoes yn ei wneud, ac yn y pendraw, dylai olygu bod mwy o athletwyr yn rhagori mewn cystadlaethau Olympaidd.
Eglura Dr Calum Arthur, Cyd-gyfarwyddwr IPEP:
“Mae gan hyfforddwyr waith anodd ond pwysig iawn o ran datblygu eu hathletwyr.”
“Rydym wedi gweithio’n eang gyda’r meysydd milwrol, chwaraeon a busnesau i ddeall beth yw arwain a sut i’w gysyniadu. Roedd rhaid i ni ateb cwestiynau allweddol fel: beth ddylwn ei wneud fel arweinydd? Sut allaf ysgogi fy nilynwyr? Sut allaf helpu i rymuso fy nilynwyr? Rydym wedi cynnal nifer o astudiaethau sy’n ceisio dynodi ac ynysu’r math allweddol o hyfforddi sydd fwyaf dylanwadol o ran effeithio ar symbyliad a pherfformiad athletwyr. Yn sgil hynny datblygwyd ymyriadau ymddygiadol a oedd yn helpu arweinwyr i ddangos rhagor o’r dulliau arwain mwyaf effeithiol".
“Mae ein gwaith hefyd wedi arwain at ddatblygu model newydd o effeithiau arweiniad sef darparu gweledigaeth, cefnogaeth a her. Y brif egwyddor sy’n sail i’r model hwn yw ein bod yn credu mai’r person sy’n gweithio caletaf, yn hyfforddi orau ac yn gweithio’n hirach fydd yr athletwr mwyaf llwyddiannus. Er enghraifft, gall hyfforddwr sy’n ceisio ysbrydoli athletwr, gael medal Olympaidd fel eu gweledigaeth. Bydd gweledigaeth yn rhoi ffocws a chyfeiriad i holl ymdrechion yr athletwr. Er enghraifft, mae nofwyr sy’n codi am 5am yn aberthu llawer o ran eu bywydau cymdeithasol, personol a gwaith felly mae’n rhaid i’w gweledigaeth fod yn werthfawr ac yn gredadwy. Gwaith eu hyfforddwyr yw eu helpu i wneud y weledigaeth yn gredadwy ac yna darparu llwybr trwy eu helpu a'u cefnogi."
“Bydd hyfforddwr yn cynnig dulliau o gefnogi pryd bynnag bydd eu hangen, er enghraifft cyngor ar faeth, cymorth seicolegol, cefnogaeth emosiynol neu beth bynnag sydd ei angen ar yr athletwr i gyflawni ei weledigaeth. Maent yn gwneud hyn trwy geisio deall y person fel unigolyn ac yna gweithio allan beth sydd orau iddynt, teilwrio eu dulliau hyfforddi i gyfateb ag anghenion unigol yr athletwr.”
“Felly gwaith yr hyfforddwr yw eu herio i gyrraedd y nod. Bydd her ar lefel uchel yn hanfodol i gadw’r lefelau egni yn uchel a gosod disgwyliadau uchel sy'n ofynnol er mwyn cael lefelau uchel o berfformiad. Bydd cynnig cefnogaeth ar ei ben ei hun yn debygol o arwain at ddiflastod a bydd gosod her ar ei ben ei hun yn debygol o arwain at chwythu plwc. Rhaid i’r hyfforddwr gael cydbwysedd rhwng cefnogi a gosod her er mwyn i’r athletwr gyflawni ei weledigaeth Olympaidd”.
Yn ddiweddar bu Dr Arthur yn gweithio gyda’r Fyddin. Mae fideo cyswllt â’r cyhoedd Cymdeithas Seicolegol Prydain yn dangos sut y mae ymchwil a wnaed trwy’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi uwch hyfforddwyr yn y fyddin.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2012