Deunydd Perthnasol - Deddf Meinweoedd Dynol
Mae’r diffiniad o ddeunydd perthnasol yn dod o dan Adran 53 Deddf Meinweoedd Dynol 2004. Mae'n golygu deunydd, ac eithrio gametau, sydd wedi’i gyfansoddi o gelloedd dynol neu sy’n eu cynnwys, ond nid yw'n cynnwys embryonau a grëwyd y tu allan i'r corff dynol, na gwallt nac ewinedd o gorff person byw. Y diffiniad allweddol o ddeunydd perthnasol yw sampl y gwyddys ei fod yn cynnwys unrhyw beth o un gell i fyny sydd wedi dod o gorff dynol ac sy'n cynnwys deunydd y gellid ei adnabod yn glir megis cyrff, organau a meinweoedd. Mae hefyd yn cynnwys cynhyrchion gwastraff corfforol, sleidiau microsgop, deunydd sydd wedi'i blastineiddio a rhannau o'r corff sydd wedi'u plastineiddio (lle bo'r strwythur cellog wedi ei gadw gan y broses blastineiddio). Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Rhestr yr Awdurdod Meinweoedd Dynol o ddeunyddiau a ystyrir yn 'ddeunydd perthnasol' dan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004. Mae enghreifftiau o ddeunydd perthnasol yn cynnwys: ewin (gan berson marw), bustl, gwaed, olion golchiad trwynol a bronciol, mêr esgyrn, bôn-gelloedd (sy'n deillio o'r corff), esgyrn/sgerbydau, llinyn bogail, brych, ymennydd, llaeth y fron, organau, platennau, hylifau (gan gynnwys sbwtwm, poer, crawn, wrin, mwcws, amniotig, cerebrosbinol, eisbilennol, cystig, pericardiol), meithriniadau o gelloedd sylfaenol, croen, ysgarthion, gwallt (gan berson marw), dannedd a samplau meinwe o diwmor.
Mae enghreifftiau o ddeunydd na fyddai’n cael ei ystyried yn berthnasol dan y Ddeddf yn cynnwys: gwrthgyrff, ewinedd a gwallt (gan berson byw), cyddwysiadau anadl a nwyon allanadlu, plasma (oni bai ei fod yn cynnwys niferoedd bychain o blatennau a chelloedd gwaed eraill), llinellau celloedd, asidau niwclëig (DNA, RNA), wyau (ofa), celloedd sberm (spermatosoa), embryonau in vitro a bôn-gelloedd embryonig (a grëwyd y tu allan i'r corff), sebwm, echdynion cellog (gan gynnwys lysadau cell, organynnau, proteinau, ffracsiynau cytoplasmig, a lipidau), serwm, chwys a chelloedd wedi’u lysu.