Addysgu yn defnyddio deunydd perthnasol
Rhaid i addysgu sy’n cynnwys defnyddio deunydd perthnasol fel y’i diffinnir gan y Ddeddf ystyried meysydd allweddol cydsyniad, urddas, ansawdd, gonestrwydd a thryloywder. Mae'r Awdurdod Meinweoedd Dynol wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio deunyddiau perthnasol ar gyfer addysgu ar ffurf Cod Ymarfer.
Os yw eich gwaith addysgu yn ymwneud â chaffael deunyddiau perthnasol dan y Ddeddf yna bydd yn rhaid trefnu trwydded caffael a chytundebau trosglwyddo deunydd. Bydd angen i chi gysylltu â'ch Cyfarwyddwr Project Adrannol i drefnu hyn.
Mae deunydd perthnasol dan y Ddeddf sy’n cael ei storio at ddibenion addysgu wedi’i eithrio o ofynion trwyddedu Meinweoedd Dynol os yw’r meinwe:
- Yn cael ei gadw at broject addysgu penodol a gymeradwywyd gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG
- Gan berson a fu farw dros 100 mlynedd yn ôl
- Yn cael ei gadw ar gyfer ei drosglwyddo i rywle arall cyn belled â’i fod yn cael ei gadw am ychydig oriau neu ddyddiau ac yn bendant am ddim mwy nag wythnos a bod hynny gyda chymeradwyaeth gan yr Unigolyn Dynodedig neu gynrychiolydd enwebedig o Bwyllgor Rheoli Awdurdod Meinweoedd Dynol y Brifysgol.
- Yn cael ei gadw tra’i fod yn cael ei brosesu gyda’r bwriad o wneud y meinwe yn anghellog cyn belled â bod y prosesu yn cymryd mater o oriau neu ddyddiau ac yn bendant ddim mwy nag wythnos a bod hynny gyda chymeradwyaeth gan gynrychiolydd o Bwyllgor Rheoli Awdurdod Meinweoedd Dynol y Brifysgol.
- Wedi cael ei greu y tu allan i'r corff dynol ac nad yw'n ymwneud mewn unrhyw ffordd â chymhwyso meinweoedd neu gelloedd i fodau dynol
Os nad oes angen deunyddiau perthnasol ar gyfer addysgu mwyach bydd angen i chi gysylltu â'ch Cyfarwyddwr Project Adrannol i drefnu cael eu gwared.