Ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol 2021/22
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac, fel rhan o'r agenda Athena Swan, wedi sefydlu'r Ysgoloriaethau Bangor Gwynhwysol.
Nod yr ysgoloriaethau yw cefnogi myfyrwyr sy'n parhau gyda'i hastudiaethau ym Mangor, i sicrhau bod llais a phrofiad myfyrwyr yn cael ei fewnosod yn yr agenda Cydraddoldeb.
Eleni, mae tair Ysgoloriaeth Bangor Gynhwysol wedi eu dyfarnu i dri o raddedigion eithriadol Prifysgol Bangor yn 2021:
Daw Mae Bernard, sy’n 21 oed, o Lichfield, Swydd Stafford ac mae’n astudio am MSc mewn Niwroddelweddu yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, a dywedodd:
“Roedd cymryd rhan mewn gwaith yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn bwysig i mi oherwydd fy mod yn ymdrechu i wneud y byd yn lle gwell i’r cenedlaethau ar fy ôl ac mae cydraddoldeb i bawb yn rhan bwysig o hynny. Ar ben hynny, gall amrywiaeth a chynhwysiant mewn lleoliadau addysg helpu i gael gwared ar ragfarn ddiwylliannol o'n gwaith a gall gyfoethogi'r gymdeithas ehangach trwy gynnig profiadau a safbwyntiau newydd. Mae cael yr ysgoloriaeth hon wedi golygu y gallaf aros ym Mangor a pharhau i wneud y brifysgol a'r ddinas yn well lle.”
Mae Eddie Cox, sy’n 21 oed ac o Fanceinion, yn astudio am MA mewn Archaeoleg Geltaidd yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas.
Meddai Eddie:“Ar ôl profi pa mor anhygoel o ddigalon yw profi gwahaniaethu yn y byd academaidd, dwi'n angerddol am greu amgylchedd academaidd sy'n groesawgar ac yn gynhwysol.
Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn gefnogol iawn i faterion yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn fy maes i yn ystod fy ngradd israddedig ac mae'n amlwg bod llawer o ddarlithwyr a staff benywaidd yn wybodus iawn am gynhwysiant. Fodd bynnag, hoffwn weld mwy o drafodaethau ynghylch materion yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb o fewn modiwlau, o ran amrywiaeth ymhlith staff a myfyrwyr presennol, ac o ran ein dealltwriaeth o'r gorffennol. Dwi’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ges i gan grŵp Athena Swan y brifysgol ac edrychaf ymlaen at y cyfle i wthio am gynwysoldeb, yn y brifysgol ac o fewn fy maes yn ehangach.”
Mae Thea Moule, sy’n 28 oed ac o Fangor yn astudio am MRes mewn Bioleg Môr yn Ysgol Gwyddorau Eigion a dywedodd:
“Mae'n anrhydedd derbyn Ysgoloriaeth Bangor Gynhwysol i astudio MRes mewn Bioleg Môr. Bydd yr ysgoloriaeth yn rhoi i mi'r sefydlogrwydd ariannol i fedru ymroi yn llawn i weithio ar fy mhwnc ymchwil. Ar ben hynny, bydd yn fy ngalluogi i symud ymlaen â fy nyheadau o ran gyrfa sef bod yn ymchwilydd ecoleg môr. Fodd bynnag, mae bwlch sylweddol rhwng y rhywiau ym meysydd STEM - dydy merched ddim ond yn cyfrif am 30% o ymchwilwyr gwyddonol ledled y byd, ac mae’r ganran yn llai fyth ym maes Gwyddorau’r Eigion. Felly, mae'r cyfle i fod yn rhan o waith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn bwysig er mwyn parhau i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth merched fel ymchwilwyr a helpu i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol a chynwysoldeb ym meysydd STEM."
Darllenwch y stori gyfan ar ein gwefan.
I gael gwybodaeth am yr ysgoloriaethau, cysylltwch â athenaswan@bangor.ac.uk.