Croeso i Adnoddau Dynol
Datganiad cenhadaeth adrannol Adnoddau Dynol yw cefnogi'r Brifysgol i wireddu ei hamcanion busnes strategol trwy roi i gleientau wasanaeth uchel ei ansawdd a chynhwysfawr sy'n gwella'n barhaus.
Mae’r Adran Adnoddau Dynol wedi mabwysiadu arferion gweithio deinamig y Brifysgol. Mae staff yn bresennol ar y campws, yn Bryn Afon, ar ddiwrnodau gwaith amrywiol a hefyd yn gweithio o gartref. Byddem yn annog pe bai gennych unrhyw ymholiad neu gais am wybodaeth eich bod yn parhau i anfon y rhain yn electronig. I’ch cynorthwyo i gyfeirio eich ymholiadau at yr aelod tîm mwyaf priodol, gweler y dudalen o’r enw ‘Cysylltiadau Staff a Lleoliad Swyddfa’.
Os bydd cydweithwyr yn dymuno cyfarfod â chynrychiolydd o AD yn bersonol, yna rhaid trefnu hyn ymlaen llaw. Mae staff AD hefyd ar gael ar gyfer cyfarfodydd/trafodaethau ynghylch TIMAU.
Diolch i chi am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad parhaus.
Adolygu a diweddaru eich data cydraddoldeb, HESA, ac eich gallu yn y Gymraeg yn iTrent
Mae rhai misoedd wedi mynd heibio ers lansio Porth Hunanwasanaeth i Weithwyr (ESS) iTrent ac rydym nawr yn gofyn i bob aelod o staff adolygu eu gwybodaeth monitro cydraddoldeb eu hunain yn y Porth Hunanwasanaeth, yn ogystal a data HESA ac gallu ieithyddol yn y Gymraeg.
Gwybodaeth Monitro Cydraddoldeb
Yw’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, er enghraifft eich rhywedd (hunaniaeth rhywedd), ethnigrwydd ac a ydych yn nodi eich bod yn anabl ac ati.
Mae’r cwestiynau am eich gwybodaeth bersonol a ofynnwn yn y Porth Hunanwasanaeth yn seiliedig ar y nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ac mae’n ofynnol i ni ofyn i chi. Chi sydd i benderfynu a ydych am ddarparu'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, bydd gwneud hynny’n ein galluogi i ddeall cyfansoddiad ein gweithlu’n well fel rhan o’n strategaeth i hyrwyddo cynwysoldeb a chynyddu hygyrchedd. Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i asesu effaith cydraddoldeb polisïau ac arferion i lywio datblygiad amcanion cydraddoldeb a nodi'r gwelliannau yr ydym eisiau eu cyflawni.
Data HESA (Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch).
Rhennir data HESA, mewn fformat dienw (nid yw’n cynnwys eich enw na’ch manylion cyswllt ond gall gynnwys eich rhif ID Ymchwilydd Agored a Chyfrannwr (ORCID.org) os oes gennych un), gyda’r corff(au) cyllido a rheoleiddio AU sy’n gofyn i HESA ei gasglu a’i gwneud yn ofynnol iddo gyflawni ei swyddogaethau statudol a/neu gyhoeddus. Mae’r rhannu data hwn yn cael ei wneud er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i HESA a’r cyrff cyllido a rheoleiddio.
Data gallu yn y Gymraeg
Trwy adolygu a diweddaru’r gallu yn y Gymraeg (e.e. gallu siarad Cymraeg, gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, ddim yn gallu siarad Cymraeg). Rydym yn awyddus i sicrhau bod staff yn cadw’r wybodaeth hon yn gyfredol ar eu cofnod (e.e. ar ôl dilyn hyfforddiant iaith Gymraeg). Bydd hyn yn sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer yn adlewyrchu eich asesiad chi o'ch sgiliau Cymraeg.
Yn ogystal â bod yn ofyniad statudol i’r Brifysgol gasglu data ar allu staff yn y Gymraeg, mae’r wybodaeth hefyd yn ein galluogi i gynllunio darpariaeth cymorth iaith, darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg, a darparu gwasanaethau dwyieithog ar draws y Brifysgol.
Bydd yr atebion a roddwch yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Cydraddoldeb y Brifysgol a hysbysiad preifatrwydd HESA. Dim ond at ddibenion monitro data mewnol y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio, er enghraifft ar gyfer adrodd dienw yn yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.
Bydd y canllawiau cyflym hyn ar tudalennau gwe iTrent yn dweud wrthych sut i wirio a diweddaru eich data cydraddoldeb personol, data HESA, a sgiliau iaith Gymraeg trwy ESS.
Gofynnwn i chi adolygu'r wybodaeth hyn erbyn 31 Gorffennaf, ac wedi hynny, rydym yn argymell eich bod yn adolygu eich gwybodaeth o leiaf unwaith y flwyddyn oherwydd gall amgylchiadau personol newid.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddarparu eich gwybodaeth bersonol neu am faterion yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gyffredinol, cysylltwch â Nia Blackwell yn yr adran Adnoddau Dynol drwy ebost: n.blackwell@bangor.ac.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas a data HESA, cysylltwch a staffdata@bangor.ac.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r wybodaeth a gedwir am allu yn y Gymraeg cysylltwch â Lowri Hughes yng Nghanolfan Bedwyr drwy ebost: l.a.hughes@bangor.ac.uk
Prifysgol Bangor yn ennill gwobr arian Athena Swan i gydnabod gwaith ar gydraddoldeb rhywiol
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr arian sefydliadol Athena Swan. Prifysgol Bangor yw'r ail brifysgol yng Nghymru i ennill gwobr arian; mae llai na 40 o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig wedi ennill gwobr arian. Manylion llawn yma.
Canllawiau prosesu misol AD a Gyflogres
Mae dogfen wedi ei ddatblygu sydd yn nodi a diffinio’r dyddiad terfynol misol o ran prosesau’r Adnoddau Dynol a’r Gyflogres a’r camau y mae’n rhaid i’r Colegau Academaidd a’r Ysgolion, a Chyfarwyddiaethau’r Gwasanaethau Proffesiynol eu cymryd i weithredu newid ar y gyflogres. Os oes ganddo chi gyfrifoldebau swydd yn y mae yma, cymrwch ychydig o funudau I ddarllen y ddogfen hon.
Diweddariad system Newydd Adnoddau dynol/gyflogres iTrent
Gobeithiwn fod cydweithwyr bellach yn ymgyfarwyddo ag i Trent ac wedi dechrau defnyddio'r system. I'ch atgoffa, dyma'r hyn y mae i Trent yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer ar hyn o bryd.
- Pob gwyliau blynyddol.
- Pob cyfnod o absenoldeb salwch.
- Hawliadau Teithio a Chynhaliaeth.
- Ceisiadau Gweithio Hyblyg, a phob math o absenoldeb sy'n ystyriol o deuluoedd (megis Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu ac ati).
- Pob newid cytundebol a gyflwynir ar ran aelodau staff, er enghraifft unrhyw newid mewn oriau, estyniad i gontractau.
- Recriwtio i rolau heb eu hysbysebu, er enghraifft penodiadau tymor byr, ymchwilwyr penodol, staff darlithio rhan-amser.
Mae llu o ddeunyddiau wedi'u datblygu i gefnogi cydweithwyr ar eu taith i ddefnyddio i Trent. Mae'r rhain yn amrywio o Gwestiynau Cyffredin, canllawiau manwl i ddefnyddwyr, i fideos sy'n rhoi trosolwg o'r gwahanol swyddogaethau a restrir uchod. Gellir eu gweld trwy'r dudalen we hon ac mae'r rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd i fynd i'r afael ag ymholiadau a ddaw i law.
Yn ogystal â darparu’r adnoddau hyn y gall pawb eu defnyddio ar eu cyflymder a’u hamser eu hunain, rydym hefyd yn gwerthfawrogi nad oes dim byd arall ar adegau i ryngweithio wyneb yn wyneb a darparu cymorth ymarferol. Gyda hynny mewn golwg, trefnir nifer o sesiynau galw heibio, lle gall galw I mewn i ofyn cwestiynau, a derbyn y cymorth sydd ei angen. Nodir dyddiadau, amseroedd a lleoliad y sesiynau hynny yma.
O'r mis Hydref 2023 ymlaen ni fydd slipiau cyflog yn cael eu hanfon drwy e-bost mwyach. Bydd y rhain yn cael eu postio i'r porth Hunanwasanaeth I weithwyr (ESS) ac eto, bydd y tudalennau gwe a amlygir uchod yn amlinellu sut y gellir eu gweld.
Dyma’r cam cyntaf tuag at ddefnyddio iTrent, a bydd mwy o ymarferoldeb yn cael ei gyflwyno maes o law. Enghreifftiau yw recriwtio (iTrent yw'r system y bydd ymgeiswyr yn ei defnyddio i wneud cais am swyddi gwag yn y Brifysgol) a chofnodi gweithgarwch hyfforddi a datblygu.
Rhennir diweddariadau a manylion pellach ar sut y bydd iTrent yn trawsnewid prosesau adnoddau dynol mewn bwletinau staff.
Gofynion adrodd am Covid-19
Bydd cydweithwyr yn ymwybodol bod y Brifysgol, ers mis Mawrth 2020, wedi bod â phroses ar waith i ofyn i staff a myfyrwyr roi gwybod am achosion cadarnhaol o Covid-19.
Mae deddfwriaeth Covid-19 bellach wedi’i diddymu, ac o’r herwydd, nid oes gofyniad bellach i’r adrodd canolog hwn ddigwydd. Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn cadw ei dyletswydd i reoli a lliniaru risgiau yn y gweithle a gofynnwn i gydweithwyr fod yn ymwybodol o’u heffaith bosibl ar bobl eraill ac i beidio â dod ar y campws na chymysgu ag eraill os ydynt yn amau bod ganddynt Covid-19 neu unrhyw afiechydon trosglwyddadwy eraill. Er nad yw’r adrodd yn ganolog o fod yn Covid bositif yn ofyniad bellach, byddem yn gofyn i gydweithwyr ddilyn y gweithdrefnau adrodd am absenoldeb salwch arferol, a chyfathrebu â’u Rheolwr Llinell / Goruchwyliwr, yn unol â’r Polisi a Gweithdrefn Absenoldeb Salwch.
Ceir rhagor o wybodaeth yn
Hysbysiad Preifatrwydd Data Staff
Cliciwch yma i weld Hysbysiad Preifatrwydd Data Staff Prifysgol Bangor