Polisi Cydraddoldeb Hiliol
Daw’r dyfyniadau isod o Bolisi Prifysgol Bangor ar Gydraddoldeb Hiliol. Bwriad y crynodeb hwn yw rhoi trosolwg ichi ar ymrwymiadau Prifysgol Bangor wrth y dyletswyddau Cyffredinol a Phenodol sy'n deillio o ddeddfwriaeth ar Gysylltiadau Hiliol. Gellwch lwytho’r polisi i lawr yn ei grynswth trwy’r cyswllt ar waelod y dudalen.
Yn ei Ragair i’r Polisi ar Gydraddoldeb Hiliol, mae’r Athro R. Merfyn Jones, Is-Ganghellor, yn dweud:-
“Prifysgol Bangor yn cefnogi egwyddor cydraddoldeb a chyfle cyfartal i’w holl aelodau, aelodau posibl ac ymwelwyr, ac wedi ymrwymo’n llwyr wrth yr egwyddor honno.”
Fel un o brif gyflogwyr yr ardal, mae’r Brifysgol yn falch o fanteisio ar y cyfle hwn i adeiladu ar ei hymrwymiad wrth gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i roi neges glir a digamsyniol na fydd yn goddef gwahaniaethu anghyfreithlon. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i herio gwahaniaethu ar sail hil ac anghydraddoldeb hiliol, ac i feithrin amgylchedd sydd heb wahaniaethu nac aflonyddu ar sail hil.”
DEDDFWRIAETH
Dyma’r prif ddeddfau sy’n effeithio ar y Brifysgol a’r Polisi ar Gydraddoldeb Hiliol sy’n ymwneud â Chysylltiadau Hiliol: Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976; Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiedig) (2000); Diwygiadau ar y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn deillio o Gyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd ar Hil, 2003.
DYLETSWYDDAU’R BRIFYSGOL (yn deillio o ddeddfwriaeth)
Dyletswyddau Cyffredinol:
- Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon
- Hyrwyddo cyfle cyfartal
- Hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol
Dyddiadau penodol
- Paratoi datganiad ysgrifenedig ar ei Pholisi ar Gydraddoldeb Hiliol, ac ymrwymo i wireddu ei pholisi
- Cloriannu ei pholisi a’r modd y mae’n effeithio ar staff o wahanol grwpiau hiliol
- Monitro staff sy’n dod i mewn a’r cynnydd a wnânt, y modd y cânt eu recriwtio a’u cadw, a dilyniant gyrfaol staff yn ôl eu grwpiau hiliol.
- Trefnu bod canlyniadau asesiadau ar gael, a monitro data.
CYFRIFOLDEB AM GYDRADDOLDEB HILIOL
Mae Corff Llywodraethol y Brifysgol (y Cyngor) a’i holl uwch reolwyr sydd, yn y pen draw, yn gyfrifol am sicrhau bod y Polisi ar Gydraddoldeb Hiliol yn cael ei weithredu, yn cymeradwyo a chefnogi’r polisi hwnnw.
- Y CYNGOR – yn y pen draw, sydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol dros gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, a thros ddirprwyo i’r staff uwch y dasg o reoli a gweithredu’r polisi.
- Yr IS-GANGHELLOR, sef Prif Swyddog Gweithredol y Brifysgol, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros weinyddu a gweithredu’r Polisi, yn ôl cyfarwyddyd Cyngor y Brifysgol.
- Ar ran y Brifysgol, y GRŴP CYDRADDOLDEB HILIOL sy’n gyfrifol am weinyddu a monitro’r polisi.
- Cyfrifoldeb PENAETHIAID ADRANNAU yw gweithredu’r Polisi a sicrhau bod pobl yn cydymffurfio ag ef.
- SWYDDOGION GWEINYDDOL sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau penodol dros weithredu’r polisi a chydymffurfio ag ef.
Yr Ysgrifennydd a’r Cofrestrydd, y Cofrestrydd Academaidd, y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a’r Swyddog Cyfle Cyfartal yw’r swyddogion hyn.
Y BUDDION
Bydd gweithredu’r Polisi ar Gydraddoldeb Hiliol, fel rhan o’i hymrwymiad ehangach wrth amrywiaeth a chyfle cyfartal mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaeth, yn gymorth i Prifysgol Bangor:
- Creu awyrgylch cadarnhaol, cynhwysol, a pharch at wahaniaethau ymysg pobl.
- Dangos ymrwymiad i herio hiliaeth a gwahaniaethu.
- Cymryd camau i ymdrin ag unrhyw wahaniaethau a fo rhwng grwpiau hiliol (yn weithwyr ac yn fyfyrwyr), o ran cyflawni a gwneud cynnydd, a rhoi sylw i unrhyw gwynion a ddêl i law.
- Mynnu bod myfyrwyr yn dangos parch tuag at wahanol ddiwylliannau, crefyddau a daliadau crefyddol, gan eu paratoi mewn modd cadarnhaol i gyfrannu’n llawn at y gymdeithas aml-hiliol sydd ohoni.
- Gwella morâl a pherfformiad y staff trwy greu amgylchedd cynhwysol lle mae’n amlwg fod staff a myfyrwyr o bob grŵp ethnig yn cael eu hannog i ddatblygu ac i wireddu eu posibiliadau’n llawn.
- Defnyddio’r medrau a’r wybodaeth sydd gan bobl o wahanol grwpiau ethnig ar bob lefel o’r sefydliad a’r corff llywodraethol.
- Rhoi siampl i’r gymuned ehangach ac i gyrff allanol ynglŷn â phwysigrwydd cyfle cyfartal ac ymrwymiad Prifysgol Bangor i ddileu gwahaniaethu ar sail hil ac anoddefgarwch ar sail crefydd.
CYNGOR A CHYMORTH
Os ydych wedi dioddef yn sgil anoddefgarwch hiliol, cewch gyngor a chymorth oddi wrth y Swyddog Cyfle Cyfartal, y rhwydwaith Cynghorwyr ar Aflonyddu, Swyddogion Adnoddau Dynol, Cynghorwyr Lles Myfyrwyr, a Chynrychiolwyr o Undebau Llafur neu Undeb y Myfyrwyr.
ANUFUDDHAU I'R POLISI AR GYDRADDOLDEB HILIOL
Bydd ymchwiliad i ddigwyddiadau a, lle bo hynny’n briodol, cânt eu trin yn ôl y codau disgyblaethol priodol i staff a myfyrwyr.
AC YN OLAF
Yn ei Ragair i’r Polisi ar Gydraddoldeb Hiliol, mae’r Is-Ganghellor yn parhau:-
“Mae’r Polisi ar Gydraddoldeb Hiliol yn ddogfen gyfredol a gaiff ei harolygu, ei diwygio a’i monitro wrth i waith yn y maes hwn ddatblygu. Bydd ar gael i holl aelodau cymuned y Brifysgol, ac mae’n rhan hanfodol o Bolisi’r Brifysgol ar Gyfle Cyfartal.”